Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B clean up |
delwedd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Y Glerorfa05LL.jpg|bawd|310px|[[Pibgorn|Pibgyrn]] Y glerorfa yng Ngŵyl Tegeingl.]] |
|||
Sefydlwyd '''Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru''', sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn [[Llangollen]] ar [[2 Medi]], [[1906]]. Nod y gymdeithas oedd i gasglu [[cerddoriaeth]] [[canu gwerin|werin]] a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.' |

Fersiwn yn ôl 07:12, 2 Medi 2017
Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn Llangollen ar 2 Medi, 1906. Nod y gymdeithas oedd i gasglu cerddoriaeth werin a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.'
Mae Canu Gwerin, sef cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob Awst, a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddir cyfrolau o alawon a threfniannau hefyd yn achlysurol. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar eu gwefan.
Sefydlu
Un o brif sylfaenwyr y Gymdeithas oedd Dr J. Lloyd Williams, darlithydd mewn botaneg ym Mhrifysgol Bangor oedd hefyd yn gyfarwyddwr cerdd y coleg. Sefydlodd barti canu o blith ei fyfyrwyr gan eu hanog i gofnodi hen ganeuon llafar gwlad yn ystod eu gwyliau[1]
O fewn hanner can mlynedd o'i sefydlu roedd y Gymdeithas wedi llwyddo i gasglu bron i 600 o ganeuon traddodiadol Cymraeg. Yn 1988 ailargraffwyd casgliad pwysig Maria Jane Williams a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1844.
Cyfeiriadau
- ↑ Gwyn Jenkins (gol.). Llyfr y Ganrif. Y Lolfa. ISBN 0-86243-504-8.
Llyfryddiaeth
- Gweler Canrif Gron/ The Welsh Folk-Song Society: A Whole Century gan D. Roy Saer, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 2006 (ISBN 0 9532555 5 7).