Ysgol Brynhyfryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
*[[Ysgol Cerrigydrudion]] (Sir Gonwy)<ref name="Conwy">{{dyf gwe|url=www.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/89/Primary.doc|teitl=Ysgolion Uwchradd|cyhoeddwr=Bwrdeistref Sirol |
*[[Ysgol Cerrigydrudion]] (Sir Gonwy)<ref name="Conwy">{{dyf gwe|url=www.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/89/Primary.doc|teitl=Ysgolion Uwchradd|cyhoeddwr=Bwrdeistref Sirol |
||
Conwy}}</ref> |
Conwy}}</ref> |
||
*[[Ysgol Dinamel]] (Sir Gonwy)<ref name="Conwy"> |
*[[Ysgol Dinamel]] (Sir Gonwy)<ref name="Conwy" /> |
||
==Dolenni Allanol== |
==Dolenni Allanol== |
Fersiwn yn ôl 13:09, 15 Mai 2008
Ysgol uwchradd gyfun yn Rhuthun, Sir Ddinbych yw Ysgol Brynhyfryd, ar gyfer plant 11 i 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol yn 1898 odan yr enw Ruthin County School for Girls, gyda bechgyn yr ardal yn teithio i Ddinbych i dderbyn eu addysg. Yn 1938, ailenwyd yn Brynhyfryd School, fe dderbyniodd yr ysgol bechgyn a merched a daeth plant i'r ysgol o dalgylch o hyd at chwe milltir i ffwrdd. Adnabyddwyd yr ysgol odan ei henw Cymraeg ers yr 1970au. Roedd cryn waith adeiladu yn yn ysgol yn yr 1950au a'r 1970au cynnar. Cynyddodd y nifer o ddisgyblion o 700 i 1000 o fewn cwpl o flynyddoedd yn ystod yr 1970au, pan godwyd yr oedran gadael ysgol o 15 i 16.
Yn ystod adroddiad ESTYN 2000, roedd tua 1230 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2002, a 240 ohonynt yn y chweched ddosbarth. Daeth 40% o'r dref a 60% o'r ardal gwledig. Daeth 35% o’r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith y cartref, ac 1% o gartrefi lle nad oedd y Gymraeg na'r Saesneg yn brif iaith gartref. Gallai 40% siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf. Daw tua 1% o’r disgyblion o gefndiroedd ethnig lliw ac yn siarad ieithoedd heblaw’r Saesneg neu’r Gymraeg gartref. Gall 40% o’r disgyblion siarad. Yn ôl yr adroddiad, roedd safon yr addysg yn dda.[1]
Yn 2003, adeiladwyd 20 dosbarth newydd yn yr ysgol i gymryd lle hen ystafelloedd symudol, gosodwyd record gan y nifer o ddosbarthiadau symudol oedd gan yr ysgol gynt. Fe warwyd 1.6 milliwn o bunnau ar yr ysgol i'w gwella.[2] Mae adeilad y chweched ddosbarth yn adeilad rhestredig ar raddfa II.[3] Mae cyfleusterau chwaraeon yr ysgol yn cynnwys pwll nofio, ac yn cael eu defnyddio fel canolfa hamdden y dref. Mae hefyd rhwydwaith o gyfleusterau celf a Theatr John Ambrose, a gafodd ei enwi ar ôl cyn-brifathro o'r 1980au a'r 1990 au, agorwyd y theatr gan yr actor Rhys Ifans, a fagwyd yn Rhuthun ac oedd yn gyn-ddisgybl Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug.
Bu'r hanesydd Frank Price Jones yn athro yno ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Eleri E. Jones yw pennaeth presenol yr ysgol. Roedd dadleuon yn ddiweddar pan gyflwynodd Brynhyfryd y Welsh Baccalureate.
Arwyddair yr ysgol yw Nid dysg heb foes.
Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol
- Ysgol Cerrigydrudion (Sir Gonwy)[4]
- Ysgol Dinamel (Sir Gonwy)[4]
Dolenni Allanol
Ffynonellau
- ↑ Adroddiad ESTYN (18 – 22 Tachwedd 2002).
- ↑ Gwella adeiladau Ysgol Brynhyfryd. Cyngor Sir Ddinbych (20 Rhagfyr 2002).
- ↑ Ceisiadau Am Ganiatad Datblygu. Pwyllgor Cynllunio (4 Hydref 2006).
- ↑ 4.0 4.1 [www.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/89/Primary.doc Ysgolion Uwchradd]. Bwrdeistref Sirol Conwy.