Cymathiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
B robot Ychwanegu: hr:Jednačenje po zvučnosti |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[fr:Assimilation (phonétique)]] |
[[fr:Assimilation (phonétique)]] |
||
[[he:הידמות]] |
[[he:הידמות]] |
||
[[hr:Jednačenje po zvučnosti]] |
|||
[[hu:Hasonulás]] |
[[hu:Hasonulás]] |
||
[[ja:同化 (音声学)]] |
[[ja:同化 (音声学)]] |
Fersiwn yn ôl 18:44, 10 Mai 2008
Math o gyfnewid seinegol lle mae sain yn newid i fod yn debycach i sain arall yn ei gyd-destun yw cymathiad.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain ddilynol yn gymathiad blaen. Enghraifft o gymathiad blaen yn y Gymraeg yw simme a glywir ar lafar yn y gorllewin am simne. Yma mae'r m wedi troi'r n sy'n ei dilyn yn m hefyd.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain flaenorol yn gymathiad ôl. Enghraifft o gymathiad ôl yn y Gymraeg yw tac-cu, a glywir yn aml am tad-cu yn y de. Yma mae'r c yn y cu wedi troi'r d ar ddiwedd tad yn c; mae hwn yn gymathiad llwyr. Mae campunt, a glywir yn gyffredin ar lafar am canpunt, yn enghraifft o gymathiad ôl rhannol. Yma mae'r p yn punt wedi dylanwadu ar y llythyren n flaenorol a'i thynnu yn nes at ei sain ei hun, drwy ei throi yn m. Enghraifft o gymathiad ôl sy'n effeithio ar lafariaid yw bwgwth am bygwth.