Hen Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
PipepBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Newid: fr:Vieux gallois
Llinell 13: Llinell 13:
[[fr:Vieux gallois]]
[[fr:Vieux gallois]]
[[gl:Lingua galesa antiga]]
[[gl:Lingua galesa antiga]]
[[it:Antico gallese]]
[[it:Lingua antico gallese]]
[[pt:Galês antigo]]
[[pt:Galês antigo]]
[[zh:古威爾斯語]]
[[zh:古威爾斯語]]

Fersiwn yn ôl 11:02, 10 Mai 2008

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Mae Hen Gymraeg yn enw ar gyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg a estynnodd o'r 9fed i'r 11eg ganrif.

Mae glosau, sef nodiadau Cymraeg ymyl y ddalen ar destunau Lladin, o'r cyfnod hwn wedi goroesi. Mae rhai o'r llawysgrifau a ysgrifennwyd o'r 12fed ganrif ymlaen naill ai wedi eu copïo o lawysgrifau hŷn neu yn gofnod o draddodiad llafar hŷn, e.e. Llyfr Llandaf (a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru), yr Annales Cambriae (cedwir un fersiwn o hwn yn y Public Record Office (PRO) a dau fersiwn yn y Llyfrgell Brydeinig) yn Llundain, a gwaith y Cynfeirdd.

Mae'r darnau ysgrifenedig hyn yn cynnig tystiolaeth o fath ynglŷn â'r Gymraeg yn y cyfnod hwn. Eto amwys yw'r dystiolaeth i raddau gan na wyddom ai synau'r Gymraeg sydd wedi newid ynteu'r ffordd y cyflëir y synau hyn ar bapur. Rhaid bod yn ofalus wrth dynnu casgliadau o'r dystiolaeth ysgrifenedig brin. Yn y llawysgrifau ni cheir treiglad ar ddechrau gair byth, a phrin yw'r enghreifftiau o gyfnewidiadau seiniol yng nghanol neu ar ddiwedd gair, e.e. atar (adar), nimer (nifer), douceint (deugain), merc (merch), trucarauc (trugarog). Ceir gu ynghanol gair, sydd yn w-gytsain erbyn heddiw, e.e. petguar (pedwar). Fe dybir nad oedd y gyfundrefn dreigladau ar ddechrau geiriau sydd gennym heddiw ddim eto wedi datblygu'n llawn yn y Gymraeg na'r cyfnewidiadau seiniol mewnol, megis t i d yn atar/adar, eto wedi eu cwblhau. Ond y mae'n bosib bod geiriau yn cael eu treiglo ar lafar ond mai'r ffurf gysefin yn unig a ysgrifennid, neu bod y ffordd o yngan y cytseiniaid wedi newid ers hynny. Digwydd oi neu ui lle yr yngenir wy heddiw, e.e. oith (wyth), troi (trwy), bloidin (blwyddyn), notuid (nodwydd). Ceir ou sydd heddiw'n eu neu au, e.e. hithou (hithau), nouodou (neuaddau). Nid oedd Hen Gymraeg eto wedi magu y ar flaen geiriau'n dechrau ag s a chytsain arall megis stebill (ystafell), strat (ystrad). Safle'r acen yn y Frythoneg oedd ar y sill cyn yr olaf. Pan gollid terfyniadau Brythoneg, hynny yw'r sill olaf, fe fyddai’r acen ar y sill olaf o'r gair newydd, e.e. trīnĭtātem i trindáwd, a'r acen ar y sill olaf –áwd (dynoda ΄ safle'r brif acen). Yna rhywbryd tua diwedd cyfnod yr Hen Gymraeg symudodd yr acen i'r sill cyn olaf i roi tríndawd. Wedi cyfnod yr Hen Gymraeg gwanhawyd yr aw oedd bellach yn ddiacen i o gan roi'r gair modern trindod. Ha a hac oedd ein ac a'n a ni megis mewn gweithred sy'n sôn am 'douceint torth ha maharuin in ir ham ha douceint torth in ir gaem' (deugain torth a maharen yn yr haf a deugain torth yn y gaeaf).