Gorseth Kernow: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
nodyn; cat
nds:Gorseth Kernow
Llinell 173: Llinell 173:
[[eo:Gorsedh Kernow]]
[[eo:Gorsedh Kernow]]
[[kw:Gorseth Kernow]]
[[kw:Gorseth Kernow]]
[[nds:Gorseth Kernow]]

Fersiwn yn ôl 22:09, 8 Mai 2008

Gweler hefyd Gorsedd.

Sefydliad diwylliannol Cernywaidd a sefydlwyd i gynnal ysbryd Celtaidd cenedlaethol Cernyw yw Gorseth Kernow ('Gorsedd Cernyw'). Mae'n cyfateb i Gorsedd y Beirdd yng Nghymru a Goursez Vreizh yn Llydaw ac yn cydweithredu â'r chwaer orseddau hynny.

Cefndir

Delwedd:Lady of cornwall.jpg
'Arglwyddes Cernyw' a'i llawforwynion yng Ngorseth 2007 (Penzance)

Sefydlwyd Gorseth Kernow gan Henry Jenner yn 1928 yn Boscawen-un. Un o arweinwyr cynnar i fudiad i ailsefydlu'r Gernyweg oedd Jenner, a chymerodd yr enw barddol 'Gwas Myghal' ("Gwas Mihangel"). Cafodd ef a deuddeg arall eu hurddo gan Archdderwydd Cymru. Cynhalwyd y Gorseth bob blwyddyn ers hynny (ac eithrio yn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r rhai a urddwyd yn feirdd yn cynnwys Ken George, R. Morton Nance ("Mordon") a'r ysgolhaig Peter Berresford Ellis.

Amcan swyddogol Gorseth Kernow yw "cynnal ysbryd Celtaidd cenedlaethol Cernyw," ac mae'n cefnogi pob ymdrech i hyrwyddo'r iaith Gernyweg. Yn ogystal, mae'r Gorseth yn hyrwyddo hanes a diwylliant Cernyw. Fe'i cynhelir yn flynyddol mewn gwahanaol ardaloedd ac mae'n rhan bwysig o fywyd Cernyw, fel yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru, gyda llawer o bobl yn cystadlu ynddi.

Urddir pobl sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ddiwylliant Cernyw â'r teitl 'Bardd' (ni cheir 'derwyddon' ac 'ofyddion' fel yng Nghymru). Anrhydedd diwyllianol yw hyn, yn hytrach na chydnabyddiaeth o ragoriaeth fel bardd fel y cyfryw. Rhoddir enwau barddol Cernyweg i'r 'beirdd' hyn gan yr archdderwydd a'u derbyn i Goleg y Beirdd.

Cynhelir y Gorseth agored nesaf ym Medi 2008, yn Looe.

Hanes

Cynhaliwyd y seremoni gyntaf yng ngylch cerrig Boscawen-Un yn 1928. John Owen Williams (Pedrog), y bardd ac archdderwydd o Gymro, a agorodd yr orsedd, ar erfyniad Henry Jenner a Robert Morton Nance, ar batrwm Gorsedd y Beirdd yng Nghymru. Henry Jenner fu'r Prifardd cyntaf. Roedd y 'beirdd' eraill yn cynnwys:

Mae Gorseth Kernow yn cydnabod ac yn defnyddio pob fersiwn o'r iaith Gernyweg adfywiedig (gweler Cernyweg).

Beirdd Cernyw a lleoliada'r Orsedd ers 1899

  • 1899 Cymru
  • Matthews, John Hobson (D) (Mab Cernyw)
  • Reynolds, Reginald (D) (Gwas Piran)
  • Reynolds, Hettie Tangye (D) (Merch Eia)
  • 1903 Llydaw
  • Jenner, Henry (D) (Gwas Myghal)
  • 1904 Cymru
  • Jenner, Katherine Lee (D) (Morvoren)
  • Jewell, L C Duncombe (D) (Bardd Glas)
  • 1928 Cymru
  • Bluett, Albert Marwood (D) (Gwryghonen Vew)
  • Carah, Parch. James Sims (D) (Gwas Crowan)
  • Doble, Parch. Canon Gilbert Hunter (D) (Gwas Gwendron)
  • Nance, Robert Morton (D) (Mordon)
  • Pool, Annie (D) (Myrgh Piala)
  • Roberts, Trelawney (D) (Gonader A Bell)
  • Rowe, Joseph Hambley (D) (Tolzethan)
  • Watson, William Charles David (D) (Tirvab)


Rhestr o Brifeirdd Gorseth Kernow ers 1928

Cyfeiriadau

  • Craig Weatherhill, Cornish Place Names & Language (Sigma Leisure, 1995) ISBN 1-85058-462-1
  • Jon Jenkin, BYRTH GORSETH KERNOW 1928-2007: Bards of the Gorseth of Cornwall (Gorseth Kernow, 2007) ISBN 1-903668-01-6

Dolenni allanol