I. D. Hooson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B cat |
|||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*''Cerddi a Baledi'' ([[1936]]) |
*''[[Cerddi a Baledi]]'' ([[1936]]) |
||
*''Y Gwin a Cherddi Eraill'' ([[1948]]) |
*''[[Y Gwin a Cherddi Eraill]]'' ([[1948]]) |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 20:51, 23 Awst 2017
Roedd Isaac Daniel Hooson (2 Mai 1880 – 18 Hydref 1948), neu I.D. Hooson, yn fardd Cymraeg a sgwennai cerddi syml a phoblogaidd ar y mesurau rhydd, yn enwedig telynegion a baledi. Un o'i faledi enwocaf yw'r Fantell Fraith a gyhoeddodd yn 1934.
O Gernyw y daeth ei dad Edward, gan setlo yn Sir y Fflint yn y gwaith plwm. Cafodd Isaac ei eni yn Rhosllannerchrugog, yn fab i Edward a Harriet Hooson ac yno y bu byw - yn Nhŷ Fictoria, Stryd y Farchnad. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Roedd yn gyfreithiwr wrth ei waith ac adnabyddid ef fel "Cyfaill i Blant Cymru".
Enwyd Ysgol I.D. Hooson ar ei ôl.
Gwaith
Rhwng 1897 a 1904 bu'n gweithio i "Mri Morris & Jones" yn Lerpwl, ond ar farwolaeth ei dad, daeth yn nes adref i weithio yn y dref agosaf, sef Wrecsam. Bu yno gyda cwmni o gyfreithwyr nes i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau a gorfodwyd ef i wasanaethu yn y llynges. Yn 1919 dychwelodd i weithio fel partner mewn ffyrm o gyfreithwyr yn Wrecsam a rhwng 1920 a 1943 ef oedd yr ‘Official Receiver in Bankruptcy’ yng nghylch Caer a Gogledd Cymru.[1]
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol
Dolen allanol