Afon Paraná: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) map |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi symud Afon Paranà i Afon Paraná: teipio |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 21:22, 5 Mai 2008
Afon yn Ne America yw Afon Paraná (Sbaeneg: Río Paraná). Hi yw'r ail hwyaf o afonydd De America, ar ôl Afon Amazonas.
Ceir tarddiad yr afon yn ne Brasil, lle mae'r Río Grande ac Afon Paranaíba yn cyfarfod. Llifa tua'r de-orllewin, gan wahanu taleithiau São Paulo, Mato Grosso del Sur a Paraná. Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffîn rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paraguay a Brasil. Yn nes ymlaen, ffurfia'r ffîn rhwng yr Ariannin a Paraguay, ac mae Afon Iguazú ac Afon Paraguay yn ymuno a hi. Mae'n cyrraedd y môr yn y Río de la Plata.