Gwyach fawr gopog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot Ychwanegu: sl:Čopasti ponirek |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
Mae'r '''Wyach Fawr Gopog''', ''Podiceps cristatus'', yn aelod o deulu'r [[Pocipedidae]], y gwyachod. |
Mae'r '''Wyach Fawr Gopog''', ''Podiceps cristatus'', yn aelod o deulu'r [[Pocipedidae]], y gwyachod. |
||
Mae'n un o'r gwyachod mwyaf cyffredin, ac yn nythu ar draws [[Ewrop]] ac [[Asia]] yn unrhyw le llae mae llynyddoedd gyda thipyn o dyfiant arnynt. Yn y rhannau oeraf mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin yn y gaeaf, ond fel arall nid yw'n [[aderyn mudol]]. Mae'n |
Mae'n un o'r gwyachod mwyaf cyffredin, ac yn nythu ar draws [[Ewrop]] ac [[Asia]] yn unrhyw le llae mae llynyddoedd gyda thipyn o dyfiant arnynt. Yn y rhannau oeraf mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin yn y gaeaf, ond fel arall nid yw'n [[aderyn mudol]]. Mae'n casglu ar lynnoedd mawr neu ar rannau cysgodol o'r arfordir yn aml yn y gaeaf. |
||
Mae tua 46-51 cm o hyd a 59-73 cm ar draws yr adenydd. Pysgod bach yw ei fwyd fel rheol, ac mae'n medru nodfio o dan y dŵr i'w dal. Oherwydd fod y coesau wedi eu gosod ymhell yn ôl ar y corff, |
Mae tua 46-51 cm o hyd, a 59-73 cm ar draws yr adenydd. Pysgod bach yw ei fwyd fel rheol, ac mae'n medru nodfio o dan y dŵr i'w dal. Oherwydd fod y coesau wedi eu gosod ymhell yn ôl ar y corff, ni all gerdded yn hawdd ar y tir. |
||
Yn y tymor nythu, gellir gweld yr arddangosfa baru, lle mae'r ceiliog a'r iâr yn |
Yn y tymor nythu, gellir gweld yr arddangosfa baru, lle mae'r ceiliog a'r iâr yn wynebu'i gilydd ac yn gwneud ystumiau gyda'u gyddfau, yn hanner codi o'r dŵr ac weithiau'n cynnig darn o blanhigyn i'w gilydd. Yn nes ymlaen, gellir gweld cyw, neu ddau gyw, yn cael eu cario ar gefn un o'r rhieni wrth iddynt nofio ar wyneb y dŵr. |
||
Erbyn diwedd y [[19eg ganrif]] yr oedd |
Erbyn diwedd y [[19eg ganrif]] yr oedd yr Wyach Fawr Gopog wedi mynd yn aderyn prin iawn ym [[Prydain|Mhrydain]] oherwydd ei bod yn cael ei hela, er mwyn defnyddio plu ei phen i addurno hetiau merched. I amddiffyn y rhywogaeth yma y sefydlwyd yr [[RSPB]] cyntaf. Gydag amddiffyniad cyfreithiol, mae niferoedd yr Wyach wedi cynyddu yn sylweddol iawn. Yng [[Cymru|Nghymru]] gellir gweld yr Wyach Fawr Gopog yn nythu ar bron unrhyw lyn o faint gweddol, ac yn yr hydref neu'r gwanwyn mae dros 300 ohonynt yn heidio i [[Afon Menai]] ar adegau. |
||
[[Categori:Adar]] |
[[Categori:Adar]] |
Fersiwn yn ôl 07:37, 4 Mai 2008
Gwyach Fawr Gopog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Podicipediformes |
Teulu: | Podicipedidae |
Genws: | Podiceps |
Rhywogaeth: | P. cristatus |
Enw deuenwol | |
Podiceps cristatus (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Wyach Fawr Gopog, Podiceps cristatus, yn aelod o deulu'r Pocipedidae, y gwyachod.
Mae'n un o'r gwyachod mwyaf cyffredin, ac yn nythu ar draws Ewrop ac Asia yn unrhyw le llae mae llynyddoedd gyda thipyn o dyfiant arnynt. Yn y rhannau oeraf mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin yn y gaeaf, ond fel arall nid yw'n aderyn mudol. Mae'n casglu ar lynnoedd mawr neu ar rannau cysgodol o'r arfordir yn aml yn y gaeaf.
Mae tua 46-51 cm o hyd, a 59-73 cm ar draws yr adenydd. Pysgod bach yw ei fwyd fel rheol, ac mae'n medru nodfio o dan y dŵr i'w dal. Oherwydd fod y coesau wedi eu gosod ymhell yn ôl ar y corff, ni all gerdded yn hawdd ar y tir.
Yn y tymor nythu, gellir gweld yr arddangosfa baru, lle mae'r ceiliog a'r iâr yn wynebu'i gilydd ac yn gwneud ystumiau gyda'u gyddfau, yn hanner codi o'r dŵr ac weithiau'n cynnig darn o blanhigyn i'w gilydd. Yn nes ymlaen, gellir gweld cyw, neu ddau gyw, yn cael eu cario ar gefn un o'r rhieni wrth iddynt nofio ar wyneb y dŵr.
Erbyn diwedd y 19eg ganrif yr oedd yr Wyach Fawr Gopog wedi mynd yn aderyn prin iawn ym Mhrydain oherwydd ei bod yn cael ei hela, er mwyn defnyddio plu ei phen i addurno hetiau merched. I amddiffyn y rhywogaeth yma y sefydlwyd yr RSPB cyntaf. Gydag amddiffyniad cyfreithiol, mae niferoedd yr Wyach wedi cynyddu yn sylweddol iawn. Yng Nghymru gellir gweld yr Wyach Fawr Gopog yn nythu ar bron unrhyw lyn o faint gweddol, ac yn yr hydref neu'r gwanwyn mae dros 300 ohonynt yn heidio i Afon Menai ar adegau.