Afon Ceirw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Mae enw'r afon yn atgof o'r amser pan geid nifer o [[carw|geirw]] ac anifeiliad gwyllt eraill ar fryniau Cymru. |
Mae enw'r afon yn atgof o'r amser pan geid nifer o [[carw|geirw]] ac anifeiliad gwyllt eraill ar fryniau Cymru. |
||
{{eginyn Conwy}} |
|||
[[Categori:Afonydd Cymru|Ceirw]] |
[[Categori:Afonydd Cymru|Ceirw]] |
Fersiwn yn ôl 19:52, 2 Mai 2008
Mae Afon Ceirw yn afon yng ngogledd Cymru. Ei hyd yw tua 14 milltir.
Mae'r afon yn tarddu yn y bryniau yn ardal Uwch Aled rhwng Carnedd y Filiast (2194') a Garn Prys (1747') yn ne sir Conwy, tua 4 milltir i'r gorllewin o Gerrigydrudion. Ar ôl llifo i gyfeiriad y dwyrain mae'n troi i'r de-ddwyrain ger Cerrigydrudion ac yn llifo'n gyfochrog â lôn yr A5 heibio i bentrefi bychain Llangwm a'r Maerdy ac ymlaen i'r Ddwyryd yn Sir Ddinbych. Rhai milltiroedd ar ôl hynny mae hi'n llifo i afon Dyfrdwy ger Corwen.
Mae enw'r afon yn atgof o'r amser pan geid nifer o geirw ac anifeiliad gwyllt eraill ar fryniau Cymru.