Diglosia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Huw P (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Huw P (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mewn [[ieithyddiaeth]] mae '''diglosia''' yn derm ar gyfer sefyllfa ble mae dwy iaith neu dwy fersiwn o’r un iaith yn cael eu defnyddio o fewn yr un gymuned yn ôl y sefyllfa. |
Mewn [[ieithyddiaeth]] mae '''diglosia''' yn derm ar gyfer sefyllfa ble mae dwy iaith neu dwy fersiwn o’r un iaith yn cael eu defnyddio o fewn yr un gymuned yn ôl y sefyllfa. |
||
Mewn llawer o enghreifftiau o Ddiglosia - yn ogystal ag iaith lafar pob dydd - mae siaradwr yn newid i fersiwn wahanol o’r un iaith neu iaith |
Mewn llawer o enghreifftiau o Ddiglosia - yn ogystal ag iaith lafar pob dydd - mae siaradwr yn newid i fersiwn wahanol o’r un iaith neu iaith arall ar gyfer sefyllfaoedd mwy ffurfiol. |
||
==Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'== |
==Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'== |
Fersiwn yn ôl 15:45, 18 Awst 2017
Mewn ieithyddiaeth mae diglosia yn derm ar gyfer sefyllfa ble mae dwy iaith neu dwy fersiwn o’r un iaith yn cael eu defnyddio o fewn yr un gymuned yn ôl y sefyllfa.
Mewn llawer o enghreifftiau o Ddiglosia - yn ogystal ag iaith lafar pob dydd - mae siaradwr yn newid i fersiwn wahanol o’r un iaith neu iaith arall ar gyfer sefyllfaoedd mwy ffurfiol.
Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'
Mae’r iaith lafar pob dydd yn cael ei dynodi fel yr iaith "L" (o’r gair Saesneg "low"). Fel arfer mae’r iaith "L" yn cael ei defnyddio yn y cartref ac ymhlith cymdogion, cyd-weithwyr etc.
Mae’r iaith "H" (o’r Saesneg "high") yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol fel addysg, ysgrifennu neu ddelio gydag awdurdodau a phobl rymus.
Mae diglosia yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, fel arfer mae pobl Tsieina yn siarad eu tafodiaith leol fel yr iaith "L" gan newid i'r iaith "H" - Mandarin ar gyfer llythrennedd.
Yn yr un modd mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio Cymraeg llafar yn eu tafodiaith leol ymhlith ei gilydd gan newid i Gymraeg lenyddol neu Saesneg ar gyfer ysgrifennu a darllen.
Ffynonellau
- Crystal, D. 2005. How Language Works Penguin Books. ISBN 0-14-051538-0
- https://en.wikipedia.org/wiki/Charles_A._Ferguson
- Ferguson, Charles A. 1959. Diglossia. Word 15: 325-340. http://www.mapageweb.umontreal.ca/tuitekj/cours/2611pdf/Ferguson-Diglossia.pdf