Y Blew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Maelor (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Maelor (sgwrs | cyfraniadau) B sort |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
Cewch gyfle hefyd i wrando ar eu cerddoriaeth yn yr Oriel Un newydd yn Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. |
Cewch gyfle hefyd i wrando ar eu cerddoriaeth yn yr Oriel Un newydd yn Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. |
||
{{DEFAULTSORT:Blwe, Y}} |
|||
{{Eginyn Cerddoriaeth Cymru}} |
{{Eginyn Cerddoriaeth Cymru}} |
||
Fersiwn yn ôl 16:30, 30 Ebrill 2008
Band roc Cymraeg arloesol cynnar oedd Y Blew. Fe'i sefydlwyd ym Mhasg 1967, gan bedwar o fyfyrwyr Prifysgol Cymru, Aberystwyth, wedi syrffedu'n lan ar natur siwgraidd, di-fôls y byd pop Cymraeg fel yr oedd ar y pryd (grŵpiau megis Tony ac Aloma, y Pelydrau, yr holl "Hogiau", ac yn y blaen). Cynhalwyd gig arloesol yn neuadd Talybont, Pasg 1967. Er mwyn cael yr offer i ddatblygu ymhellach, bu'n rhaid i'r band benthyca a chrafu. Trefnwyd taith haf llwyddianus yn y Blewfan, gan gynnwys ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala. Recordiwyd Maes B, eu hunig disg, yn ystod yr haf hwnnw. Rhoed y gorau iddi yn yr hydref, ac ad-dalwyd yr holl ddyledion i bawb.
Aelodau'r band
- Prif leisydd: Maldwyn Pate,
- Gitar Flaen: Richard Lloyd,
- Gitar Fas: Dafydd Prys Evans (mab Gwynfor Evans),
- Allweddellau: Dave Williams,
- Drymiau: Geraint Evans/Topsi.
Roedd trefnu'r daith gigs yh hollol broffesiynnol, llogwyd byrddau hysbysebu enfawr ymhobman a dosbarthwyd miloedd o daflenni "dayglo" yn cyhoeddi "Mae'r Blew yn dod". Mae rhai o'r memorobilia hyn i'w gweld yn yr arddangosfa newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cewch gyfle hefyd i wrando ar eu cerddoriaeth yn yr Oriel Un newydd yn Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.