Gabriel Goodman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
delwedd Llanelwy |
→Cyfeiriadau: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
== Cyfeiriadau == |
== Cyfeiriadau == |
||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
⚫ | |||
[[Categori:Genedigaethau 1528]] |
[[Categori:Genedigaethau 1528]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1601]] |
[[Categori:Marwolaethau 1601]] |
||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 23:08, 16 Awst 2017
Deon Abaty San Steffan (Saesneg: Dean of Westminster), Llundain ac ail-sefydlydd Ysgol Rhuthun oedd Gabriel Goodman (6 Tachwedd 1528 – 17 Mehefin 1601).[1] Roedd yn casau'r pabyddion yn ogystal a'r purwyr neu'r eithafwyr. Brwydrodd dros bobl Rhuthun gan geisio gostwng ychydig ar y trethi roedden nhw'n ei dalu. Cafodd ei gladdu yn Abaty San Steffan.
Ei fywyd cynnar
Ganwyd Gabriel Goodman yn Nantclwyd y Dre (Tŷ Nantclwyd), Rhuthun, Sir Ddinbych, yn ail fab i'r masnachwr cefnog Edward Goodman. Prin yw'r wybodaeth am ei flynyddoedd cynnar, ond awgryma bywgraffiad ohono o'r 19g y cafodd ei addysgu adref gan un o offeiriaid yr eglwys golegol a oedd wedi'u diddymu. Fodd bynnag awgryma'r ffaith iddo fynychu Prifysgol Rhydychen oddeutu 1543 ac yna Prifysgol Caergrawnt yn hwyrach (lle derbyniodd B.A.) ei fod wedi derbyn hyfforddiant gramadegol ffurfiol.
Ei waith
Bu'n Reithor ar nifer o eglwysi yn lloegr ac yn aelod o nifer o gyrff yn ystod ei oes, llawer ohony nhw'n gysylltiedig a theulu William Cecil (wedyn yr Arglwydd Burghley). Yn 1575, er enghraifft, fel aelod o'r uwch-gomisiwn, cynorthwyodd i gondemnio Peters a Turnwort, a losgwyd yn ddiweddarach am eu credo.
Bu hefyd yn gyfaill i William Morgan (esgob) ac yn gymorth gyda chyhoeddi beibl 1568.