Souk-Ahras: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Mae [[Afon Medjerda]] yn tarddu ger Souk-Ahras ac yn llifo i'r dwyrain ac yna dros y ffin ar ei thaith i'r [[Môr Canoldir]] rhwng [[Bizerte]] a dinas [[Tunis]]. |
Mae [[Afon Medjerda]] yn tarddu ger Souk-Ahras ac yn llifo i'r dwyrain ac yna dros y ffin ar ei thaith i'r [[Môr Canoldir]] rhwng [[Bizerte]] a dinas [[Tunis]]. |
||
{{eginyn Algeria}} |
|||
[[Categori:Dinasoedd Algeria]] |
[[Categori:Dinasoedd Algeria]] |
||
Fersiwn yn ôl 19:52, 15 Ebrill 2008
Mae Souk-Ahras (enw hynafol: Tagaste) yn dref a wilaya (rhanbarth) yn Algeria. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad, yn agos i'r ffin â Tunisia.
Ystyr yr enw Souk-Ahras yw "Marchnad y llewod" (o'r gair Arabeg سوق souk 'marchnad' a'r gair Berber ahras 'llew'), ac fe'i gelwir felly am fod yr ardal yn adnabyddus yn y gorffennol am y llewod a oedd yn byw yng nghoedwigoedd yr ardal hyd ddiwedd y 19eg ganrif.
Souk-Ahras (Tagaste) oedd tref enedigol Sant Awstin o Hippo, a aned yno yn y fwyddyn 354 i deulu o dras Berberaidd.
Mae ffordd yn cysylltu Souk-Ahras a Le Kef yn Tunisia a rheilffordd yn ei chysylltu ag Algiers, prifddinas y wlad, a Jendouba yn Tunisia.
Mae Afon Medjerda yn tarddu ger Souk-Ahras ac yn llifo i'r dwyrain ac yna dros y ffin ar ei thaith i'r Môr Canoldir rhwng Bizerte a dinas Tunis.