Tennyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Tennyn cymalol: canrifoedd a Delweddau using AWB |
Gwybodlen newydd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Infobox anatomy |
|||
| Name = Ligament |
|||
| Latin = Ligamentum ([[Plural]]: Ligamenta) |
|||
| GraySubject = |
|||
| GrayPage = |
|||
| Image = Knee diagram.svg |
|||
| Caption = Diagram of the right knee. |
|||
| Width = |
|||
| Image2 = Joint.svg |
|||
| Caption2 = Typical joint |
|||
| ImageMap = |
|||
| MapCaption = |
|||
| Precursor = |
|||
| System = |
|||
| Artery = |
|||
| Vein = |
|||
| Nerve = |
|||
| Lymph = |
|||
| MeshName = |
|||
| MeshNumber = |
|||
| Code = |
|||
| Dorlands = |
|||
| DorlandsID = |
|||
}} |
|||
:''Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler [[tendon]].'' |
:''Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler [[tendon]].'' |
||
Fersiwn yn ôl 05:50, 11 Awst 2017
Ligament | |
---|---|
Diagram of the right knee. | |
Typical joint | |
Manylion | |
Dynodwyr | |
Lladin | Ligamentum (Plural: Ligamenta) |
TA | A03.0.00.034 |
FMA | 30319 |
Anatomeg |
- Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tendon.
Mae tennyn neu gewyn (Saesneg: ligament) mewn anatomeg, yn air a ddefnyddir am dri fath o strwythur o fewn y corff:[1]
- Meinwe gyswllt ffibrog sy'n cysylltu esgyrn ag esgyrn eraill. Gelwir weithiau yn "dennyn cymalol"[2], "tennyn ffibrog", neu "gwir dennynau".
- Plyg y peritonewm neu bilen arall.
- Gweddillion y system tiwbaidd o'r cyfnod ffoetaidd o fywyd.
Y math cyntaf yw'r un a gyfeirir ato gan amlaf gyda'r term tennyn.
Desmoloeg yw'r enw am yr asudiaeth o dennynau, daw o'r Hen Roeg δεσμός, desmos, "tant" neu "llinyn"; a -λογία, -logia.
Tennynau peritonewm
Cyfeirir at rhai o blygiau'r peritonewm fel tennynau.
Mae esiamplau yn cynnwys:
- Y tennyn hepatoduodenal, sy'n amgylchynu'r gwythïen porth hepatig a llestri eraill fel maent yn teithio o'r dwodenwm i'r iau.
- Mae tennyn llydan y groth hefyd yn blyg yn y peritonewm.
- Tennyn cynhaliol yr ofari
Tennyn gweddill ffoetaidd
Cyfeirir at rhai strwythrau tiwbaidd sy'n weddill o'r cyfnod ffoetaidd fel tennynau ar ôl iddynt gau a throi i mewn i drwythrau tebyg i linyn:
Ffoetws | Oedolyn |
ductus arteriosus | ligamentum arteriosum |
Rhan rhagorol-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws | ligamentum teres hepatis ("tennyn crwn yr iau"). |
Rhan mewn-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws (y ductus venosus) | ligamentum venosum |
Rhannau distal rhydweli wmbilig chwith a dde y ffoetws | medial umbilical ligaments |
Tennyn cymalol
Yn y ffurf a gyfeirir ato gan amlaf, rhwymyn byr o meiwe gysylltol rheolaidd dwys sy'n galed a ffibrog yw tennyn . Cyfansoddir yn bennaf o ffibrau hir llinynnog colagen. Mae tennynau'n cysylltu esgyrn at esgyrn eraill i ffurfio cymal. (Nid ydynt yn cysylltu cyhyrau â'r esgyrn, tendonnau sy'n gwneud hyn.) Mae rhai tennynau'n cyfyngu rhai symudiadau, neu'n atal eraill yn gyfan gwbl.