Ceuta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Newid: be-x-old:Сэўта
Llinell 16: Llinell 16:
[[ar:سبتة]]
[[ar:سبتة]]
[[ast:Ceuta]]
[[ast:Ceuta]]
[[be-x-old:Сэута]]
[[be-x-old:Сэўта]]
[[bg:Сеута]]
[[bg:Сеута]]
[[br:Ceuta]]
[[br:Ceuta]]

Fersiwn yn ôl 02:20, 14 Ebrill 2008

Lleoliad Ceuta

Mae Ceuta yn diriogaeth Sbaenaidd 19km², rhan o ranbarth Andalucia yn Sbaen, ar arfordir Gogledd Affrica, sy'n wynebu'r Môr Canoldir i'r gogledd ac yn ffinio â Moroco yn y de, poblogaeth 70,000, ynghyd â'r dref o'r un enw sy'n brifddinas iddi (Arabeg Sebta o'r Lladin Septem).

Yn ôl traddodiad ymwelodd Ercwlff (Heracles) ac Odysseus (Ulusses) yma. Roedd yn borthfa filwrol dan y Rhufeiniaid. Fe'i rheolwyd gan yr Ymerodraeth Fysantaidd ar ôl hynny ac yna yn 931 fe'i meddianwyd gan reolwyr Umayyad newydd Andalucia. Roedd y bardd Ibn Sahl o Sevilla yn Ceuta rhwng 1248 a 1250 yng ngwasanaeth y llywodraethwr lleol. Cipiodd Siâms I o Aragon y ddinas yn 1309 ac yn 1415 fe'i cipwyd gan Portiwgal. Rhwng 1580 a 1640 roedd dan reolaeth Sbaen a Phortiwgal gyda'i gilydd (roedd y ddwy wlad hynny wedi'u huno yn y cyfnod hwnnw). Pan dorrodd Portiwgal allan o'r undeb meddiannodd y Sbaenwyr y diriogaeth.

Treuliodd y marchog Almaenig Jörg von Ehingen tua saith mis yn Ceuta yn 1455-1456 pan fu'r dref gaerog dan warchae gan y Morociaid.