Bow Street: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
RhodriMoc (sgwrs | cyfraniadau)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 41: Llinell 41:


==Tîm Pêl-droed==
==Tîm Pêl-droed==
Mae gan Bow Street ei thîm pêl-droed. Bu [[Clwb Pêl-droed Bow Street]] am gyfnod yn gwisgo crys du a gwyn strepiog, yn debyg i git Newcastle United. O'r herwydd llysenw y tîm o hyd yw y 'Piod' neu'n hytrach, arferir yr enw Saesneg, 'Magpies'. Bellach, crys coch, trowsus gwyn a sannau coch yw ei cit cyntaf.
Mae gan Bow Street ei thîm pêl-droed. Mae timau [[Clwb Pêl-droed Bow Street]] yn gwisgo crysau du a gwyn streipiog, yn debyg i greys Newcastle United. O'r herwydd llysenw y tîm yw 'Y Piod'.



==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 21:17, 8 Awst 2017

Cyfesurynnau: 52°26′31″N 4°01′43″W / 52.441944°N 4.028611°W / 52.441944; -4.028611
Bow Street
Bow Street, looking south towards Aberystwyth
Bow Street, gan edrych i'r de tuag at Aberystwyth
Bow Street is located in Ceredigion
Bow Street

 Bow Street yn: Ceredigion
Poblogaeth 1,888 [1]
Cymraeg (68.8%)[2]
Cyfeirnod grid yr AO SN6284
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost BOW STREET
Rhanbarth cod post SY24
Cod deialu 01970
Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ceredigion
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion

Pentref yng Ngheredigion yw Bow Street. Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr A487 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Mae yn ardal Genau'r Glyn.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Yn ôl rhai awdurdodau 'Nantafallen' neu 'Nantyfallen' oedd hen enw'r gymdogaeth, ond 'Bow Street' yw'r unig enw arni heddiw (does dim fersiwn Cymraeg).

O ganol y pentref mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach Clarach a Bae Clarach ar yr arfordir, ar y ffordd i'r Borth. I'r de mae Comins Coch ac i'r dwyrain Plas Gogerddan. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad Rhaeadr Gwy. Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhydypennau.

Mae'r pentref bellach yn bentref gymudo i bobl sy'n gweithio yn Aberystwyth.

Enwogion

Gorsaf reilffordd Bow Street

Agorwyd gorsaf reilffordd Bow Street yn 1876 ond caewyd hi fel rhan o doriadau Beeching yn 1965. Wedi pwysau lleol, ceir cynlluniau i'w hail-agor ym Mawrth 2020.

Tîm Pêl-droed

Mae gan Bow Street ei thîm pêl-droed. Mae timau Clwb Pêl-droed Bow Street yn gwisgo crysau du a gwyn streipiog, yn debyg i greys Newcastle United. O'r herwydd llysenw y tîm yw 'Y Piod'.

Cyfeiriadau

  1. Cyfanswm poblogaeth Tirymynach ("Census, 2001".)
  2. Population of Tirymynach with some knowledge of Welsh ("Census, 2001".)