Basileios II: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
bocs
Llinell 12: Llinell 12:

Yn ddiweddarach, bu'n ymladd yn erbyn y [[Persia|Persiaid]], gan ennill [[Armenia]] yn ôl i'r ymerodraeth am y tro cyntaf ers dwuy ganrif. Concrwyd rhan o dde [[yr Eidal]] hefyd, a phan fu Basileios farw ar [[15 Rhagfyr]] [[1025]], roedd ar ganol cynllunio ymgyrch i ad-ennill ynys [[Sicilia]].
Yn ddiweddarach, bu'n ymladd yn erbyn y [[Persia|Persiaid]], gan ennill [[Armenia]] yn ôl i'r ymerodraeth am y tro cyntaf ers dwuy ganrif. Concrwyd rhan o dde [[yr Eidal]] hefyd, a phan fu Basileios farw ar [[15 Rhagfyr]] [[1025]], roedd ar ganol cynllunio ymgyrch i ad-ennill ynys [[Sicilia]].

{| border=2 align="center" cellpadding=5

|width="30%" align="center"|'''Rhagflaenydd :
'''[[Ioan I Tzimiskes]]
[[969]] - [[976]]
|width="40%" align="center"|'''[[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerodron Bysantaidd]]
Basileios II
[[976]] - [[1025]]'''
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :
'''[[Cystennin VIII]] Porphyrogentius
[[1025]] - [[1028]]

[[Categori:Ymerodron Bysantaidd]]
[[Categori:Ymerodron Bysantaidd]]

Fersiwn yn ôl 17:50, 8 Ebrill 2008

Basileios II, llun mewn llawysgrif o'r 11eg ganrif.

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 976 a 1025 oedd Basileios II, hefyd Basil II (Groeg: Βασίλειος Β΄ Βουλγαροκτόνος, Basileios II Boulgaroktonos, "lladdwr y Bwlgariaid" (958 - 15 Rhagfyr 1025). Cyrhaeddodd yr Ymerodraeth Fysantaidd un o uchafbwyntiau ei grym yn ystod ei deyrnasiad ef.

Roedd Basileios yn fab i'r ymerawdwr Romanos II, ond bu ei dad farw yn 963 pan nad oedd ond pump oed. Ail-briododd ei fam, Theophano, ag un o gadfridogion Romanos, a ddaeth yn ymerawdwr fel Nikephoros II Phokas. Llofruddiwyd Nikephoros yn 969, a daeth cadfridog arall, Ioan I Tzimisces, yn ymwerawdwr. Erbyn iddo ef farw ar 10 Ionawr, 976, roedd Basileios yn ddigon hen i ddod i'r orsedd,

Ar ddechrau ei deyrnasiad, roedd gweinyddiaeth yr ymerodraeth yn nwylo yr eunuch Basileios Lekapenos, oedd yn fab anghyfreithlon i'r ymerawdwr Romanos I). Roedd dau o dirfeddianwyr mawr Asia Leiaf, Bardas Skleros a Bardas Phokas, mewn gwrthryfel yn erbyn yr ymerodraeth. Arweiniodd Basileios y fyddin yn eu herbyn a'u gorchfygu, Skleros yn 979 a Phokas yn 989. Gwnaeth gynghrair a Vladimir I, tywysog Kiev, a yrrodd lawer o filwyr iddo. Yn fuan wedyn, alltudiwyd Basileios Lekapenos.

Roedd Basileios yn filwr galluog, a bu'n ymladd llawer yn erbyn yr Arabiaid, oedd yn gwarchae ar Aleppo ac yn bygwth Antioch. Enillodd Basileios nifer o fwydrau yn eu herbyn yn Syria yn 995, gan anrheithio dinasoedd cyn belled a Tripoli ac ychwanegu'r rhan fwyaf o Syria at yr ymerodraeth.

Bu'n ymladd llawer yn erbyn Samuil, ymerawdwr Bwlgaria hefyd, gan warchae ar Sredets (Sofia) yn 986. Methodd gipio'r ddinas, a gorchfygwyd ef ym Mrwydr Trayanovi Vrata ar y ffordd yn ôl i Thrace. Collwyd Moesia i'r Bwlgariaid am gyfnod, ond gallodd Basileios ei hennill yn ôl yn 1001 - 1002. Cipiodd Skopje yn 1003 a Durazzo yn 1005. Ar 29 Gorffennaf, 1014, ennillodd Basileios fuddugoliaeth fawr dros y Bwlgariaid ym Mrwydr Kleidion. Dywedir iddo gymeryd 15,000 o garcharorion, a dallu 99 o bob cant ohonynt. Ildiodd Bwlgaria yn derfynol yn 1018, ac yn ddiweddarach ildiodd y Serbiaid hefyd, gan ddod a ffîn yr ymerodraeth at Afon Donaw am y tro cyntaf mewn pedair canrif. Bu hefyd yn ymladd yn erbyn y Khazar, a chipiodd dde y Crimea oddi wrthynt.

Yn ddiweddarach, bu'n ymladd yn erbyn y Persiaid, gan ennill Armenia yn ôl i'r ymerodraeth am y tro cyntaf ers dwuy ganrif. Concrwyd rhan o dde yr Eidal hefyd, a phan fu Basileios farw ar 15 Rhagfyr 1025, roedd ar ganol cynllunio ymgyrch i ad-ennill ynys Sicilia.

Rhagflaenydd :
Ioan I Tzimiskes
969 - 976
Ymerodron Bysantaidd
Basileios II
976 - 1025
Olynydd :
Cystennin VIII Porphyrogentius
1025 - 1028