Kemper: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Maelor (sgwrs | cyfraniadau) B lluniau |
B robot Adding: ru:Кемпер (город) |
||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
[[pt:Quimper]] |
[[pt:Quimper]] |
||
[[ro:Quimper]] |
[[ro:Quimper]] |
||
[[ru:Кемпер (город)]] |
|||
[[sl:Quimper]] |
[[sl:Quimper]] |
||
[[sv:Quimper]] |
[[sv:Quimper]] |
Fersiwn yn ôl 21:52, 29 Mawrth 2008
Tref yn Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Roedd y boblogaeth yn 67,127 yn 1999. Kemper yw prifddinas departamant Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.
Mae kemper yn Llydaweg yr un gair â "cymer" afon yng Nghymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11eg ganrif, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13eg ganrif a'r 16eg ganrif. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.
Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith.
Mae ysgolion Diwan yn y dref.
-
Siop cerdd a llyfrau Ar Bed Keltiek
-
Siop Keltia Musique
Pobl enwog o Kemper
- Dan Ar Braz, cerddor