Shane Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
cat.
Llinell 6: Llinell 6:

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, sgoriodd ddau gais yr un yn erbyn yr Alban a'r Eidal a chais yn erbyn Iwerddon; y cais yn erbyn Iwerddon oedd y 40fed iddo ei sgorio i Gymru, yn ei roi yn gydradd a [[Gareth Thomas (chwaraewr rygbi)|Gareth Thomas]] fel y sgoriwr uchaf i Gymru. Yng ngêm olaf y bencampwriaeth, yn erbyn Ffrainc, sgoriodd gais arall i dorri'r record. Ar ddiwedd y gystadleuaeth, enwyd ef yn chwaraewr y bencampwriaeth.

[[Categori:Chwaraewyr rygbi Cymreig|Williams, Shane]]
[[Categori:Chwaraewyr rygbi Cymreig|Williams, Shane]]
[[Categori:Pobl o Abertawe|Williams, Shane]]
[[Categori:Genedigaethau 1977|Williams, Shane]]
[[Categori:Genedigaethau 1977|Williams, Shane]]

Fersiwn yn ôl 23:26, 19 Mawrth 2008

Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm y Gweilch a Chymru yw Shane Mark Williams (ganed 26 Chwefror 1977). Mae'n chwarae fel asgellwr fel rheol, ond gall chwarae fel mewnwr neu fel maswr.

Ganed ef yn Abertawe, a bu'n chwarae rygbi i dîm Castell Nedd cyn ymuno a'r Gweilch. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru mewn gêm yn erbyn yr Eidal yn 2000, pan sgoriodd gais.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, roedd yn rhan o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn, gan sgorio cais yr un yn erbyn yr Eidal, yr Alban a Lloegr. Dewiswyd ef i fynd i Seland Newydd gyda'r Llewod yr un flwyddyn. Sgoriodd bum cais mewn gêm yn erbyn Manawatu.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, sgoriodd ddau gais yr un yn erbyn yr Alban a'r Eidal a chais yn erbyn Iwerddon; y cais yn erbyn Iwerddon oedd y 40fed iddo ei sgorio i Gymru, yn ei roi yn gydradd a Gareth Thomas fel y sgoriwr uchaf i Gymru. Yng ngêm olaf y bencampwriaeth, yn erbyn Ffrainc, sgoriodd gais arall i dorri'r record. Ar ddiwedd y gystadleuaeth, enwyd ef yn chwaraewr y bencampwriaeth.