Omar Sharif: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: clean up
B cats
Llinell 67: Llinell 67:
[[Categori:Genedigaethau 1932]]
[[Categori:Genedigaethau 1932]]
[[Categori:Marwolaethau 2015]]
[[Categori:Marwolaethau 2015]]
[[Categori:Actorion]]
[[Categori:Actorion Eifftaidd]]
[[Categori:Eifftiaid]]
[[Categori:Mwslimiaid Eifftaidd]]

Fersiwn yn ôl 12:05, 27 Gorffennaf 2017

Omar Sharif
عمر الشريف
Omar Sharif yn y 66fed Festival du Cinéma de Venise yn 2009.
GanwydMichel Demitri Chalhoub
10 Ebrill 1932(1932-04-10)
Alexandria, Yr Aifft
Bu farw10 Gorffennaf 2015(2015-07-10) (83 oed)
Cairo, Yr Aifft
Achos marwolaethTrawiad ar y galon
CenedlYr Aifft
AddysgColeg Victoria
Alma materPrifysgol Cairo
GwaithActor
Gweithgar1954–2013[1]
PriodFaten Hamama (1954–1974)
PlantTarek El-Sharif
Gwobrau
  • Gwobr César (2004)
  • Golden Globe Award (1962, 1963 ,1965)

Actor a chwaraewr cardiau o'r Aifft yw Omar Sharif (Arabeg: عمر الشريف‎ (ganwyd Michel Demitri Shalhoub; 10 Ebrill 1932  – 10 Gorffennaf 2015[2]). Ystyr y cyfenw a fabwusiadodd yw "uchelwr" yn Arabeg. Ymhlith ei ffilmiau enwocaf y mae: Lawrence of Arabia (1962), Doctor Zhivago (1965) a Funny Girl (1968). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi a 3 Golden Globe Award a Gwobr César.

Cafodd ei eni yn Alexandria, yr Aifft, yn fab i Joseph Chalhoub a'i wraig Claire Saada a oedd yn prynu a gwerthu coed. Derbyniodd Sharif ei addysg yng Ngholeg Victoria, Alexandira cyn ymuno gyda Phrifysgol Cairo lle'r astudiodd mathemateg a ffiseg. Priododd yr actores Faten Hamama ym 1955, gan droi'n Fwslim a chawsont un plentyn: Tarek Sharif a anwyd yn 1957. Yn 1974 chwalwyd y briodas ac ni phriododd eildro.[3] A thros y blynyddoedd disgynodd dros ei ben a'i glustiau gyda nifer o actoresau enwog gan gynnwys Ingrid Bergman, Catherine Deneuve ac Ava Gardner.[4]

Yn y 1950 serennodd mewn ffilmiau Arabeg yn ei wlad ei hun, a daeth yn boblogaidd dros nos.

Bridge

O'r 1960 hyd ddiwedd y 1980au daeth yn enwog am ei hoffter o'r gêm gardiau Bridge a bu ganddo golofn ym mhapur newydd y Chicago Tribune. Sgwennodd hefyd nifer o lyfrau ar y pwnc a thrwyddedodd ei enw i gêm gyfrifiadurol yn ymwneud a bridge, sef "Omar Sharif Bridge", sydd wedi bod ar werth ers 1992.

Y diwedd

Ond meistr arno oedd y ddiod gadarn a gamblo, a threuliodd lawer o nosweithiau'n yfed a gamblo. Yn 2015 datgelwyd ei fod yn dioddef o Clefyd Alzheimer’s.[5] Bu farw o drawiad ar y galon mewn ysbyty yng Nghairo yn 83 mlwydd oed.

Ffilmiau

  • Sira` Fi al-Wadi (1954)
  • Ayyamna al-Holwa (1955)
  • Siraa Fil-Mina (1956)
  • Ard al-Salam (1957)
  • Goha (1958)
  • Sayedat el kasr (1959)
  • Bidaya wa nihaya (1960)
  • Nahr el hub (1961)
  • Lawrence of Arabia (1962)
  • Genghis Khan (1965)
  • Doctor Zhivago (1965)
  • The Night of the Generals (1967)
  • Funny Girl (1968)
  • The Tamarind Seed (1974)
  • Funny Lady (1975)
  • Peter the Great (1986)
  • The Jewel of the Nile (1988)
  • Memories of Midnight (1991)
  • Monsieur Ibrahim et les fleurs du Coran (2003)
  • Hidalgo (2004)
  • Fuoco su di me (2005)

Cyfeiriadau

  1. "MBC.net - تعرف على سبب اعتزال عمر الشريف رسميا!". Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2015.
  2. http://edition.cnn.com/2015/07/10/entertainment/omar-sharif-dies/index.html?sr=cnnifb
  3. www.imdb.com; adalwyd 2015
  4. Gwefan y BBC; adalwyd 10 Gorffennaf 2015
  5. Gwefan www.theguardian.com; adalwyd 10 Gorffennaf 2015


Baner Yr AifftEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eifftiwr neu Eifftes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.