Aberogwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Pentref glan-môr ar arfordir Bro Morgannwg yn ne Cymru yw '''Aberogwr''' (Saesneg: ''Ogmore-by-Sea'''). Gorwedd tua 3 milltir i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr ger [[...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:59, 17 Mawrth 2008

Pentref glan-môr ar arfordir Bro Morgannwg yn ne Cymru yw Aberogwr' (Saesneg: Ogmore-by-Sea). Gorwedd tua 3 milltir i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr ger aber yr afon Ogwr ym Môr Hafren.

Mae'r traeth, sy'n dywodlyd pan fo'r llanw allan, yn cynnig golygfa dros Craig y Sger allan yn y môr ac i arfordir Dyfnaint a Gwlad yr Haf ar dywydd braf. Ar ochr arall yr aber gellir gweld tywynod Merthyr Mawr. Mae'r arfordir creigiog yn atynnu dringwyr a cheir nifer o ffosilau yn y graig.

Bu'r arfordir hwn yn ddrwgenwog am longdrylliadau yn y gorffennol. Aeth nifer o longau i ddinistr ar Graig y Sger, crib isel o gerrig ysgythrog a orchuddir gan y môr pan fo'r llanw i mewn. Ar un adeg bu Aberogwr yn un o'r llefydd yng Nghymru lle arferid camarwain llongau trwy chwifio llusernau a'u harwain i longdryllio ar y Sger er mwyn eu hysbeilio.