Candelas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 33: Llinell 33:
*Tomos Edwards (Gitâr Fas)
*Tomos Edwards (Gitâr Fas)
*Lewis Williams (Drymiau)
*Lewis Williams (Drymiau)







Fersiwn yn ôl 15:31, 25 Gorffennaf 2017

Candelas

Mae Candelas yn fand Cymreig o Lanuwchllyn, Gwynedd, sy'n chwarae cerddoriaeth roc. Sefydlwyd y band yn 2009 a rhyddhawyd eu record fer gyntaf yn 2011 dan yr enw Kim Y Syniad.[1][2] Roedd y gerddoriaeth ar y record hon wedi ei ysbrydoli gan fandiau fel The Strokes a Kings of Leon ond roedd eu hail record (eu halbwm cyntaf a enwyd ar ôl y band) yn cynnwys cerddoriaeth galetach wedi ei hysbrydoli gan fandiau fel Arctic Monkeys, Queens of the Stone Age a Band of Skulls.

Ers 2013, maent yn ymddangos fel rhan o gynllun BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n datblygu cerddoriaeth fandiau newydd ac annibynnol yng Nghymru.[3]

Ennillodd y band 3 gwobr yng Ngwobrau'r Selar am y Gân Orau, Record Hir Orau a'r Band Gorau. Adlewyrchodd hyn lwyddiant y band yn 2013 a'n sicr, roedd yn hwb i ddyfodol y grŵp. Rhyddhawyd eu hail albwm ar yr 8fed o Ragfyr, 2014, o dan yr enw 'Bodoli'n Ddistaw'.

Aelodau

  • Osian Huw Williams (Llais a Gitâr)
  • Ifan Jones (Gitâr a Llais Cefndir)
  • Gruffydd Edwards (Gitâr a Llais Cefndir)
  • Tomos Edwards (Gitâr Fas)
  • Lewis Williams (Drymiau)



Disgograffi

Teitl Label Blwyddyn
Kim Y Syniad Medi 2011
Candelas Awst 2013
Bodoli'n Ddistaw I Ka Ching Rhagfyr 2014

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cerddoriaeth Gymraeg; adalwyd 11 Awst 2014.
  2. Gwefan iTunes; adalwyd 11 Awst 2014
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 11 Awst 2014.

Dolenni allanol