Richard Rees: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
dim yn eginyn
Llinell 29: Llinell 29:
Mae’n byw yn [[sir Gaerfyrddin]] gyda’i wraig, y ddarlledwraig [[Elin Rhys]], a chanddynt un ferch, Ffion.
Mae’n byw yn [[sir Gaerfyrddin]] gyda’i wraig, y ddarlledwraig [[Elin Rhys]], a chanddynt un ferch, Ffion.


{{Eginyn Cymry}}


[[Categori:Cyflwynwyr radio|Rees, Richard]]
[[Categori:Cyflwynwyr radio|Rees, Richard]]

Fersiwn yn ôl 22:07, 15 Mawrth 2008

Richard Rees

Darlledwr a chynhyrchydd teledu yw Richard Rees (ganwyd 17 Ebrill 1955 yn Llanelli), sy’n fwyaf enwog am gyflwyno’r rhaglenni Sosban a Richard Rees ar BBC Radio Cymru.

Dechreuodd gyrfa ddarlledu Richard Rees ym myd radio masnachol yn 1974, a bu’n gweithio am dair blynedd fel cyflwynydd a chynhyrchydd llawrhydd i orsaf Sain Abertawe. Yn ystod ei gyfnod yno, bu ynghlwm â chynhyrchu nifer o raglenni amrywiol yn ymwneud â cherddoriaeth, newyddion, materion cyfoes, cylchgrawn a dogfennol.

Rhwng 1974-1976, gweithiodd Richard fel ymchwilydd ar raglenni newyddion a materion cyfoes i HTV, gyda ychydig o waith ar raglenni adloniant ysgafn.

Ymunodd â’r BBC fel cyflwynydd llawrydd yn 1976, gan ddechrau fel gohebydd lleol i raglen gylchgrawn ddyddiol, a bu’n gyflwynydd hefyd ar raglen gerddorol Sosban bob bore Sadwrn am 3 awr ar BBC Radio Cymru.

Cafodd ei wahodd i ymuno fel cyflwynydd ar BBC Radio Wales hefyd, yng ngofal rhaglenni cerddoriaeth gyfoes a chwaraeon fel Waiting for the Lions – cyfres o ddarllediadau byw ar BBC Radio 2 a New Zealand Radio yn dilyn cyfres prawf y Llewod. Dechreuodd hefyd gyfrannu i BBC World Service gydag adroddiadau o Gymru.

Erbyn 1978 roedd Richard yn aelod o staff llawn amser y BBC ac yn gyflwynydd teledu rheolaidd ar raglenni Cymraeg a Saesneg. Bu hefyd yn gyhoeddwr teledu, yn gyfrifol am holl ddarllediadau nosweithiol BBC Cymru. Roedd hyn yn cynnwys linciau byw rhwng rhaglenni, a chyfarwyddo bwletinau newyddion byw.

Yn 1980, dechreuodd arbenigo mewn rhaglenni gwyddonol a byd natur, ac yn 1984 bu’n awdur, cynhyrchydd a chyflwynydd ar gyfres ddogfen 4-rhan i BBC Radio 4, sef “Where Death Delights...” Rhaglen yn sôn am wyddoniaeth fforensig a phatholeg oedd hon, gafodd glod uchel yn y Sony Awards.

Rhwng 1985 a 1989, bu’n cynhyrchu cyfres o raglenni meddygol ar gyfer gwasanaethau radio’r BBC gan ddod â’r newyddion diweddaraf i’r gynulleidfa’n gyson am ddatblygiadau meddygol.

Bu hefyd yn gyfrannwr selog i raglen Natural History Programme ar gyfer BBC Radio 4, gan gynhyrchu pecynnau sain ar wahanol agweddau o’r byd natur.

Yn 1989, dechreuodd weithio’n llawn amser fel cyfarwyddwr teledu ar raglenni fel Farming in Wales, Awyr Iach ac Ar y Tir.

Gadawodd Richard Rees ei swydd fel cynhyrchydd yn adran ffeithiol BBC Cymru yn 1994 i ymuno fel cynhyrchydd llawrydd ar gyfres ddrama/fforensig, Dim Cliw, tra hefyd yn gweithio fel cynhyrchydd ar Week in Week Out i’r BBC.

Ymunodd â chwmni cynhyrchu annibynnol Teledu Telesgôp fel cynhyrchydd / cyfarwyddwr gan weithio ar nifer o raglenni fel Ffermio, Penclacwydd, Sioe Fach, Byd Natur, Gwyllt, Crwydro ac Ar y Lein i S4C, ac Eating Us Alive a Kill or Cure i Discovery Channel.

Am flynyddoedd bu’n un o leisiau cyfarwydd darllediadau S4C Digidol o Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd ar y rhaglenni Y Sioe Fawr yn Fyw.

Yn 2005, gwahoddwyd Richard yn nôl i ddarlledu ar BBC Radio Cymru gan gyflwyno’r rhaglen Richard Rees bob bore Sadwrn rhwng 10am-12pm. Mae’r rhaglen bellach yn gynhyrchiad annibynnol gan Telesgôp i BBC Radio Cymru.

Mae’n byw yn sir Gaerfyrddin gyda’i wraig, y ddarlledwraig Elin Rhys, a chanddynt un ferch, Ffion.