Rhazes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{infobox person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth | dateformat = dmy }} |
|||
[[Delwedd:Colophon-Razi's Book of medicine for Mansur.jpg|200px|bawd|Llyfr gan '''al-Razi''']] |
|||
Ysgolhaig a gwyddonydd amryddawn oedd '''Abū Bakr Muhammad ibn Zakarīya al-Rāzi''' ([[Persieg]]: زكريای رازی ''Zakaria ye Razi''; [[Arabeg]]: ابو بکر محمد بن زكريا الرازی; [[Lladin]]: '''Rhazes''' neu '''Rasis'''). Yn ôl y croniclydd [[al-Biruni]] cafodd ei eni yn [[Rayy]], [[Iran]] yn y flwyddyn [[865]] (251 AH), a bu farw yno yn [[925]] (313 AH) (neu [[930]] yn ôl rhai ffynonellau). |
Ysgolhaig a gwyddonydd amryddawn oedd '''Abū Bakr Muhammad ibn Zakarīya al-Rāzi''' ([[Persieg]]: زكريای رازی ''Zakaria ye Razi''; [[Arabeg]]: ابو بکر محمد بن زكريا الرازی; [[Lladin]]: '''Rhazes''' neu '''Rasis'''). Yn ôl y croniclydd [[al-Biruni]] cafodd ei eni yn [[Rayy]], [[Iran]] yn y flwyddyn [[865]] (251 AH), a bu farw yno yn [[925]] (313 AH) (neu [[930]] yn ôl rhai ffynonellau). |
||
Fersiwn yn ôl 09:28, 24 Gorffennaf 2017
Rhazes | |
---|---|
Ganwyd | 866 Ray |
Bu farw | 15 Hydref 925 Ray |
Dinasyddiaeth | Abassiaid |
Galwedigaeth | mathemategydd, cemegydd, athronydd, dyfeisiwr, meddyg |
Adnabyddus am | Ṭibb al-rūḥānī, Kitab al-Hawi, Doubts About Galen, Q108041965 |
Ysgolhaig a gwyddonydd amryddawn oedd Abū Bakr Muhammad ibn Zakarīya al-Rāzi (Persieg: زكريای رازی Zakaria ye Razi; Arabeg: ابو بکر محمد بن زكريا الرازی; Lladin: Rhazes neu Rasis). Yn ôl y croniclydd al-Biruni cafodd ei eni yn Rayy, Iran yn y flwyddyn 865 (251 AH), a bu farw yno yn 925 (313 AH) (neu 930 yn ôl rhai ffynonellau).
Bywyd a gwaith
Roedd Razi yn ysgolhaig, ffisegydd ac athronydd amlochrog ac amryddawn a wnaeth gyfraniadau pwysig a phellgyrhaeddol ym meysydd meddygaeth, alcemi, ac athroniaeth. Cyhoeddodd dros 184 o lyfrau ac erthyglau. Un o'i ddarganfyddiadau pwysicaf oedd alcohol. Roedd o gefndir diwylliedig iawn ac yn gyfarwydd â meddygaeth Roeg. Credir iddo ddarganfod asid swlffwrig ac ethanol hefyd. Roedd Razi yn un o feddylwyr mwyaf y byd Islamaidd. Cafodd ddylanwad aruthrol ar ei gyfoeswyr a'i olynwyr yn ogystal ac ar wyddoniaeth a meddygaeth Ewrop trwy'r cyfieithiadau Lladin o'i waith.
Rhesymegydd rhyddfrydol oedd Razi. Fe'i ystyrid gan ei gyfoeswyr a'i bywgraffyddwyr yn ddyn rhydd o bob rhagfarn, chwim a threiddgar ei feddwl a di-flewyn ar dafod. Fel nifer o Ewropeiaid yn ystod y Dadeni Dysg credai yn y ddynoliaeth, cynydd a "Duw Doeth". Teithiodd yn eang a gwasanaethai sawl tywysog a llywodraethwr yn y byd Islamaidd. Fe'i cysylltir yn arbennig â Baghdad lle sefydlodd ei labordy. Deuai nifer o ddisgyblion ato i gael ei gyngor a rhannu o'i wybodaeth a roddai i bawb yn ddiwahân, tlawd a chyfoethog fel ei gilydd.
Cof
Enwir Sefydliad Razi yn Tehran, a Phrifysgol Razi yn Kermanshah ar ei ôl, a dethlir 'Gŵyl Razi' ('Diwrnod Fferylliaeth') yn Iran ar 27 Awst.