Llywarch Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
chwaneg
Llinell 5: Llinell 5:
:Llywarch Hen mab [[Elidir Lydanwyn]] mab [[Meirchion]] mab Gorust Ledlwm mab [[Cenau fab Coel|Cenau]] mab [[Coel Hen|Coel]].<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.</ref>
:Llywarch Hen mab [[Elidir Lydanwyn]] mab [[Meirchion]] mab Gorust Ledlwm mab [[Cenau fab Coel|Cenau]] mab [[Coel Hen|Coel]].<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.</ref>


Ceir enw Llywarch yn ach y brenin [[Gruffudd ap Cynan]] ar ddechrau ''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]'', a luniwyd yn ail hanner y [[12fed ganrif]], sy'n dangos fod y brenin [[Rhodri Mawr]] yn ddisgynydd uniongyrchol iddo a Choel Hen.
Ceir enw Llywarch yn ach y brenin [[Gruffudd ap Cynan]] ar ddechrau ''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]'', a luniwyd yn ail hanner y [[12fed ganrif]], sy'n dangos fod y brenin [[Rhodri Mawr]] yn ddisgynydd uniongyrchol iddo a Choel Hen. Enwir Gwawr ferch [[Brychan]] yn fam Llywarch ac Urien yn y traethawd canoloesol ''De Situ Brecheniauc''.


Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i [[Teyrnas Powys|Bowys]] a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y [[9fed ganrif]] gan fardd neu feirdd o Bowys.
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i [[Teyrnas Powys|Bowys]] a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y [[9fed ganrif]] gan fardd neu feirdd o Bowys.
Mae'r broses hon o drawsleoli arwyr yr Hen Ogledd i Gymru i'w gweld hefyd yn achos cymeriadau eraill, e.e. [[Taliesin]], [[Gwyddno Garanhir]], [[Myrddin]], ac [[Urien Rheged]] hefyd.
Mae'r broses hon o drawsleoli arwyr yr Hen Ogledd i Gymru i'w gweld hefyd yn achos cymeriadau eraill, e.e. [[Taliesin]], [[Gwyddno Garanhir]], [[Myrddin]], ac [[Urien Rheged]] hefyd.


Cyfeirir at Lywarch Hen sawl gwaith yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]]. Gyda [[Manawydan fab Llyr]] a Gwgon Gwron fab Peredur, mae'n un o 'Dri Lleddf Unben [[Ynys Prydain]]'. Mae'n un o 'Dri Thrwyddedog Llys Arthur, a Thri Anfoddog', gyda Llemenig a [[Heledd]]. Dywedir hefyd ei fod yn un o 'Dri Engiriol Ynys Prydain' (ystyr ''engiriol'' yw "blin, ffyrnig" efallai) ac yn un o'r 'Tri Anfoddog', gyda Heledd a Llemenig eto.]].<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'', Trioedd 8, 65, 76, 77.</ref>
Cyfeirir at Lywarch Hen sawl gwaith yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]]. Gyda [[Manawydan fab Llyr]] a Gwgon Gwron fab Peredur, mae'n un o 'Dri Lleddf Unben [[Ynys Prydain]]'. Mae'n un o 'Dri Thrwyddedog Llys Arthur, a Thri Anfoddog', gyda Llemenig a [[Heledd]]. Dywedir hefyd ei fod yn un o 'Dri Engiriol Ynys Prydain' (ystyr ''engiriol'' yw "blin, ffyrnig" efallai) ac yn un o'r 'Tri Anfoddog', gyda Heledd a Llemenig eto.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'', Trioedd 8, 65, 76, 77.</ref>

Ceir sawl lle yng Nghymru a gysylltir â Llywarch Hen a'i feibion. Lleolir beddau rhai o'i feibion ym Mhowys, yn ôl englynion Canu Llywarch Hen. Cysylltir Llywarch ei hun â [[Llanfor]] ym [[Meirionnydd]]; enwir mwnt yno yn Babell Llywarch Hen. Yn y 12fed ganrif roedd clawdd ger [[Llyn Syfaddon]] yn adnabyddus fel Clawdd Llywarch Hen.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 18:28, 14 Mawrth 2008

Aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o englynion a elwyd gan Ifor Williams yn Canu Llywarch Hen oedd Llywarch Hen (fl. diwedd y 6ed ganrif).

Roedd Llywarch yn gefnder i Urien Rheged, brenin Rheged, ac yn un o ddisgynyddion Coel Hen. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar Cymru. Yn yr achau traddodiadol a elwir Bonedd Gwŷr y Gogledd, rhoddir llinach Llywarch Hen fel a ganlyn:

Llywarch Hen mab Elidir Lydanwyn mab Meirchion mab Gorust Ledlwm mab Cenau mab Coel.[1]

Ceir enw Llywarch yn ach y brenin Gruffudd ap Cynan ar ddechrau Hanes Gruffudd ap Cynan, a luniwyd yn ail hanner y 12fed ganrif, sy'n dangos fod y brenin Rhodri Mawr yn ddisgynydd uniongyrchol iddo a Choel Hen. Enwir Gwawr ferch Brychan yn fam Llywarch ac Urien yn y traethawd canoloesol De Situ Brecheniauc.

Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i Bowys a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y 9fed ganrif gan fardd neu feirdd o Bowys. Mae'r broses hon o drawsleoli arwyr yr Hen Ogledd i Gymru i'w gweld hefyd yn achos cymeriadau eraill, e.e. Taliesin, Gwyddno Garanhir, Myrddin, ac Urien Rheged hefyd.

Cyfeirir at Lywarch Hen sawl gwaith yn Nhrioedd Ynys Prydain. Gyda Manawydan fab Llyr a Gwgon Gwron fab Peredur, mae'n un o 'Dri Lleddf Unben Ynys Prydain'. Mae'n un o 'Dri Thrwyddedog Llys Arthur, a Thri Anfoddog', gyda Llemenig a Heledd. Dywedir hefyd ei fod yn un o 'Dri Engiriol Ynys Prydain' (ystyr engiriol yw "blin, ffyrnig" efallai) ac yn un o'r 'Tri Anfoddog', gyda Heledd a Llemenig eto.[2]

Ceir sawl lle yng Nghymru a gysylltir â Llywarch Hen a'i feibion. Lleolir beddau rhai o'i feibion ym Mhowys, yn ôl englynion Canu Llywarch Hen. Cysylltir Llywarch ei hun â Llanfor ym Meirionnydd; enwir mwnt yno yn Babell Llywarch Hen. Yn y 12fed ganrif roedd clawdd ger Llyn Syfaddon yn adnabyddus fel Clawdd Llywarch Hen.

Cyfeiriadau

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein, Trioedd 8, 65, 76, 77.

Llyfryddiaeth

  • Jenny Rowland (gol.), Early Welsh Saga Poetry (Caerdydd, 1990)
  • Ifor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935; sawl argraffiad diweddarach)

Gweler hefyd