Llywarch Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llydawr (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
ehangu a chywirio (534-634???) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Aelod o deulu brenhinol [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]] a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o [[englyn]]ion a elwyd gan [[Ifor Williams]] yn ''[[Canu Llywarch Hen]]'' oedd '''Llywarch Hen''' (fl. diwedd y [[6ed ganrif]]). |
|||
Brenhin olaf [[Rheged]] oedd '''Llywarch Hen''' (534-634) . |
|||
Roedd Llywarch yn gefnder i [[Urien Rheged]], brenin Rheged, ac yn un o ddisgynyddion [[Coel Hen]]. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar [[Cymru]]. Yn yr achau traddodiadol a elwir [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]], rhoddir llinach Llywarch Hen. |
|||
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i [[Teyrnas Powys|Bowys]] a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddyd erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. |
|||
==Llyfryddiaeth== |
|||
*Jenny Rowland (gol.), ''Early Welsh Saga Poetry'' (Caerdydd, 1990) |
|||
*Ifor Williams (gol.), ''Canu Llywarch Hen'' (Caerdydd, 1935; sawl argraffiad diweddarach) |
|||
==Gweler hefyd== |
|||
*[[Canu'r Bwlch]] |
|||
*[[Canu Llywarch Hen]] |
|||
*[[Canu Heledd]] |
|||
*[[Rheged]] |
|||
[[Categori:Yr Hen Ogledd]] |
[[Categori:Yr Hen Ogledd]] |
||
Llinell 5: | Llinell 20: | ||
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]] |
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]] |
||
[[Categori:Genedigaethau'r 6ed ganrif]] |
[[Categori:Genedigaethau'r 6ed ganrif]] |
||
[[Categori:Marwolaethau'r 630au]] |
|||
[[br:Llywarch Hen]] |
[[br:Llywarch Hen]] |
||
[[en:Llywarch Hen]] |
Fersiwn yn ôl 17:52, 14 Mawrth 2008
Aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o englynion a elwyd gan Ifor Williams yn Canu Llywarch Hen oedd Llywarch Hen (fl. diwedd y 6ed ganrif).
Roedd Llywarch yn gefnder i Urien Rheged, brenin Rheged, ac yn un o ddisgynyddion Coel Hen. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar Cymru. Yn yr achau traddodiadol a elwir Bonedd Gwŷr y Gogledd, rhoddir llinach Llywarch Hen.
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i Bowys a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddyd erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai.
Llyfryddiaeth
- Jenny Rowland (gol.), Early Welsh Saga Poetry (Caerdydd, 1990)
- Ifor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935; sawl argraffiad diweddarach)