Siân James (cantores): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Maelor (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Maelor (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
Ymysg y cerddorion a fu'n gweithio gyda hi ar ei halbymau oedd [[Tich Gwilym]]. |
Ymysg y cerddorion a fu'n gweithio gyda hi ar ei halbymau oedd [[Tich Gwilym]]. |
||
Bu James hefyd yn actio yn ffilm [[S4C]], [[Tylluan Wen (ffilm)Tylluan Wen]], ac mewn chyfresi megis ''Iechyd Da''. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef ''Siân'', darlledwyd pump rhaglen.<ref name="Sain" /> Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis [[The Saw Doctors]] a [[Capercaillie]].<ref name="BBCproffil" /> |
Bu James hefyd yn actio yn ffilm [[S4C]], [[Tylluan Wen (ffilm)|Tylluan Wen]], ac mewn chyfresi megis ''Iechyd Da''. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef ''Siân'', darlledwyd pump rhaglen.<ref name="Sain" /> Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis [[The Saw Doctors]] a [[Capercaillie]].<ref name="BBCproffil" /> |
||
Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn [[Sir Drefaldwyn]].<ref name="BBCproffil" /> |
Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn [[Sir Drefaldwyn]].<ref name="BBCproffil" /> |
Fersiwn yn ôl 10:47, 10 Mawrth 2008
Siân James |
---|
Cantores a cherddor o Gymru ydy Siân James (ganwyd 1962 yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn).
Cymerodd ran mewn Eisteddfodau o oedran cynnar, gan chwarae'r piano, y ffidil ac yn ddiweddarach, y telyn. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Llanerfyl ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion lle dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun, cyn mynd ymlaen i astudio cerdd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Enillodd hefyd gymhwyster dysgu.[1]
Bu'n aelod o'r grŵp Bwchadanas cyn dechrau creu cerddoriaeth yn unigol.[2] Rhyddhaodd bedwar albym ar label Sain cyn cael ei chomisiynu gan BBC 2 i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd gyda cyfres Birdman a oedd yn dilyn gwaith swyddog RSPB, Iolo Williams. Roedd y BBC mor hoff o'r caneuon, penderfynwyd eu rhyddhau fel crynoddisg. Erbyn hyn mae James yn rhyddhau recordiau ar ei label ei hun, Recordiau Bos, ac yn recordio o'i stiwdio bach yn ei chartref yn Llanerfyl.
Ymysg y cerddorion a fu'n gweithio gyda hi ar ei halbymau oedd Tich Gwilym.
Bu James hefyd yn actio yn ffilm S4C, Tylluan Wen, ac mewn chyfresi megis Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef Siân, darlledwyd pump rhaglen.[2] Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis The Saw Doctors a Capercaillie.[1]
Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn Sir Drefaldwyn.[1]
Disgograffi
- Cysgodion Karma 1990 (Sain)
- Distaw 1993 (Sain)
- Gweini Tymor 1996 (Sain)
- Di-Gwsg 1997 (Sain)
- Birdman 1999 (BBC Worldwide)
- Pur 2001 (Recordiau Bos)
- Y Ferch o Bedlam 2005 (Recordiau Bos)