Siân James (cantores): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Maelor (sgwrs | cyfraniadau)
B cys
Maelor (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 30: Llinell 30:
Ymysg y cerddorion a fu'n gweithio gyda hi ar ei halbymau oedd [[Tich Gwilym]].
Ymysg y cerddorion a fu'n gweithio gyda hi ar ei halbymau oedd [[Tich Gwilym]].


Bu James hefyd yn actio yn ffilm [[S4C]], [[Tylluan Wen]], ac mewn chyfresi megis ''Iechyd Da''. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef ''Siân'', darlledwyd pump rhaglen.<ref name="Sain" /> Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis [[The Saw Doctors]] a [[Capercaillie]].<ref name="BBCproffil" />
Bu James hefyd yn actio yn ffilm [[S4C]], [[Tylluan Wen (ffilm)Tylluan Wen]], ac mewn chyfresi megis ''Iechyd Da''. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef ''Siân'', darlledwyd pump rhaglen.<ref name="Sain" /> Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis [[The Saw Doctors]] a [[Capercaillie]].<ref name="BBCproffil" />


Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn [[Sir Drefaldwyn]].<ref name="BBCproffil" />
Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn [[Sir Drefaldwyn]].<ref name="BBCproffil" />

Fersiwn yn ôl 10:46, 10 Mawrth 2008

Siân James

Cantores a cherddor o Gymru ydy Siân James (ganwyd 1962 yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn).

Cymerodd ran mewn Eisteddfodau o oedran cynnar, gan chwarae'r piano, y ffidil ac yn ddiweddarach, y telyn. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Llanerfyl ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion lle dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun, cyn mynd ymlaen i astudio cerdd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Enillodd hefyd gymhwyster dysgu.[1]

Bu'n aelod o'r grŵp Bwchadanas cyn dechrau creu cerddoriaeth yn unigol.[2] Rhyddhaodd bedwar albym ar label Sain cyn cael ei chomisiynu gan BBC 2 i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd gyda cyfres Birdman a oedd yn dilyn gwaith swyddog RSPB, Iolo Williams. Roedd y BBC mor hoff o'r caneuon, penderfynwyd eu rhyddhau fel crynoddisg. Erbyn hyn mae James yn rhyddhau recordiau ar ei label ei hun, Recordiau Bos, ac yn recordio o'i stiwdio bach yn ei chartref yn Llanerfyl.

Ymysg y cerddorion a fu'n gweithio gyda hi ar ei halbymau oedd Tich Gwilym.

Bu James hefyd yn actio yn ffilm S4C, Tylluan Wen (ffilm)Tylluan Wen, ac mewn chyfresi megis Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef Siân, darlledwyd pump rhaglen.[2] Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis The Saw Doctors a Capercaillie.[1]

Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn Sir Drefaldwyn.[1]

Disgograffi

Ffynonellau

  1. 1.0 1.1 1.2 Proffil ar wefan BBC Cymru
  2. 2.0 2.1 Bywgraffiad ar wefan Sain
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.