Gwalchmai ap Gwyar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
interwici
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Llinell 1: Llinell 1:
[[Image:Gawain and the Green Knight.jpg|bawd|200px|Gawain a'r Marchog Gwyrdd.]]

Cymeriad a gysylltir a'r chwedlau am y brenin [[Arthur]] yw '''Gwalchmai ap Gwyar''', hefyd '''Gwalchmei''' ([[Lladin]]: ''Gualguainus'', [[Ffrangeg]]: ''Gauvain'', [[Saesneg]]: ''Gawain'').
Cymeriad a gysylltir a'r chwedlau am y brenin [[Arthur]] yw '''Gwalchmai ap Gwyar''', hefyd '''Gwalchmei''' ([[Lladin]]: ''Gualguainus'', [[Ffrangeg]]: ''Gauvain'', [[Saesneg]]: ''Gawain'').



Fersiwn yn ôl 20:08, 6 Mawrth 2008

Gawain a'r Marchog Gwyrdd.

Cymeriad a gysylltir a'r chwedlau am y brenin Arthur yw Gwalchmai ap Gwyar, hefyd Gwalchmei (Lladin: Gualguainus, Ffrangeg: Gauvain, Saesneg: Gawain).

Ymddengys Gwalchmai fel un o ŵyr Arthur yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle disgrifir ef fel nai i Arthur. Yn Llyfr Du Caerfyrddin enwir ei farch fel Ceingaled, a dywedir fod ei fedd ym Mheryddon. Dywed William o Malmesbury yn ei De Rebus Gestis Anglorum iddo deyrnasu mewn rhan o Brydain a eilw yn Walweitha, a dywed fod ei fedd yn Rhos. Ceir yr enw Castell Gwalchmai yn y cantref hwnnw.

Mae'n gymeriad pwysig yn Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy, lle mae'n un o farchogion gorau Arthur ac yn eifedd posibl i'r deyrnas nes iddo gael ei ladd gan ŵyr Medrawd. Ymddengys hefyd yng ngwaith Chrétien de Troyes, lle mae'n batrwm o sifalri.