Gwenhwyfar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 5: Llinell 5:
Ymddengys mewn nifer o testunau Cymreig, er enghraifft, crybwyllir hi yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', er nad oes ganddi ran fawr yn y stori. Ceir cyfres o hen englynion gyda'r teitl ''Ymddiddan Arthur a Gwenhwyfar'', sydd efallai wedi goroesi o chwedl goll gynnar amdani. Ym Muchedd [[Gildas]] o waith [[Caradog o Lancarfan]], dywedir i [[Melwas]], brenin ''Aestiva Regio'' ([[Gwlad yr Haf]]), ei chipio a'i chadw'n garcharor. Ymddengys y chwedl yma yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]] hefyd. Mae fersiwn [[Sieffre o Fynwy]] o'r digwyddiad yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' ychydig yn wahanol; dywed iddi odinebu gyda [[Medrod]], nai Arthur, a gorffen ei hoes fel [[lleian]] yng [[Caerllion|Nghaerllion ar Wysg]]. Ceir nifer o gyfeiriadau ati yn [[y Tair Rhamant]].

Yn y fersiynau diweddarch o chwedlau Arthur, mae Gwenhwyfar yn cynnal carwriaeth a [[Lawnsalot]], ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at [[Brwydr Camlan|Frwydr Camlan]] a dinistr y deyrnas. Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach.
Yn y fersiynau diweddarch o chwedlau Arthur, mae Gwenhwyfar yn cynnal carwriaeth a [[Lawnsalot]], ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at [[Brwydr Camlan|Frwydr Camlan]] a dinistr y deyrnas. Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach. Mae un o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] (53) yn cofnodi Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar fel un o'r 'Tair Gwith (Niweidiol) Balfawd ('cernod')' am iddo arwain at Frwydr Camlan.

Fersiwn yn ôl 18:22, 6 Mawrth 2008

Gwenhwyfar; llun gan William Morris

Gwenhwyfar (Lladin: Guinhumara, Ffrangeg: Guenièvre, Saesneg: Guinevere) oedd gwraig y brenin Arthur. Disgrifir hi mewn rhai ffynonellau Cymraeg fel merch i Ogrfran Gawr, ac mae traddodiad fod iddi chwaer o'r enw Gwenhwyfach.

Ymddengys mewn nifer o testunau Cymreig, er enghraifft, crybwyllir hi yn chwedl Culhwch ac Olwen, er nad oes ganddi ran fawr yn y stori. Ceir cyfres o hen englynion gyda'r teitl Ymddiddan Arthur a Gwenhwyfar, sydd efallai wedi goroesi o chwedl goll gynnar amdani. Ym Muchedd Gildas o waith Caradog o Lancarfan, dywedir i Melwas, brenin Aestiva Regio (Gwlad yr Haf), ei chipio a'i chadw'n garcharor. Ymddengys y chwedl yma yng ngwaith Chrétien de Troyes hefyd. Mae fersiwn Sieffre o Fynwy o'r digwyddiad yn ei Historia Regum Britanniae ychydig yn wahanol; dywed iddi odinebu gyda Medrod, nai Arthur, a gorffen ei hoes fel lleian yng Nghaerllion ar Wysg. Ceir nifer o gyfeiriadau ati yn y Tair Rhamant.

Yn y fersiynau diweddarch o chwedlau Arthur, mae Gwenhwyfar yn cynnal carwriaeth a Lawnsalot, ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at Frwydr Camlan a dinistr y deyrnas. Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach. Mae un o Drioedd Ynys Prydain (53) yn cofnodi Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar fel un o'r 'Tair Gwith (Niweidiol) Balfawd ('cernod')' am iddo arwain at Frwydr Camlan.