Gwenhwyfar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: thumb|250px|''Queen Guinevere'', by [[William Morris]] '''Gwenhwyfar''' (Lladin: ''Guinhumara'', Ffrangeg: ''Guenièvre'', Saesneg: ''Guine... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Image:Queen Guinevere.jpg|thumb|250px| |
[[Image:Queen Guinevere.jpg|thumb|250px|Gwenhwyfar; llun gan [[William Morris]]]] |
||
'''Gwenhwyfar''' ([[Lladin]]: ''Guinhumara'', [[Ffrangeg]]: ''Guenièvre'', [[Saesneg]]: ''Guinevere'') oedd gwraig y brenin [[Arthur]]. Disgrifir hi mewn rhai ffynonellau Cymraeg fel merch i Ogrfran Gawr, ac mae traddodiad fod iddi chwaer o'r enw Gwenhwyfach. |
'''Gwenhwyfar''' ([[Lladin]]: ''Guinhumara'', [[Ffrangeg]]: ''Guenièvre'', [[Saesneg]]: ''Guinevere'') oedd gwraig y brenin [[Arthur]]. Disgrifir hi mewn rhai ffynonellau Cymraeg fel merch i Ogrfran Gawr, ac mae traddodiad fod iddi chwaer o'r enw Gwenhwyfach. |
Fersiwn yn ôl 18:11, 6 Mawrth 2008
Gwenhwyfar (Lladin: Guinhumara, Ffrangeg: Guenièvre, Saesneg: Guinevere) oedd gwraig y brenin Arthur. Disgrifir hi mewn rhai ffynonellau Cymraeg fel merch i Ogrfran Gawr, ac mae traddodiad fod iddi chwaer o'r enw Gwenhwyfach.
Ymddengys mewn nifer o testunau Cymreig, er enghraifft, crybwyllir hi yn chwedl Culhwch ac Olwen, er nad oes ganddi ran fawr yn y stori. Ceir cyfres o hen englynion gyda'r teitl Ymddiddan Arthur a Gwenhwyfar, sydd efallai wedi goroesi o chwedl goll gynnar amdani. Ym Muchedd Gildas o waith Caradog o Lancarfan, dywedir i Melwas, brenin Aestiva Regio (Gwlad yr Haf), ei chipio a'i chadw'n garcharor. Ymddengys y chwedl yma yng ngwaith Chrétien de Troyes hefyd. Mae fersiwn Sieffre o Fynwy o'r digwyddiad ychydig yn wahanol; dywed iddi odinebu gyda Medrod, nai Arthur, a gorffen ei hoes fel lleian yng Nghaerllion ar Wysg. Ceir nifer o gyfeiriadau ati yn y Tair Rhamant.
Yn y fersiynau diweddarch o chwedlau Arthur, mae Gwenhwyfar yn cynnal carwriaeth a Lawnsalot, ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at ddinistr y deyrnas.