Hong Cong: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 67: Llinell 67:


[[Delwedd:VictoriaHarbour.jpg|300px|de|bawd|Harbwr [[Victoria (Hong Cong)|Victoria]], [[Ynys Hong Cong]].]]
[[Delwedd:VictoriaHarbour.jpg|300px|de|bawd|Harbwr [[Victoria (Hong Cong)|Victoria]], [[Ynys Hong Cong]].]]

Mae Hong Cong yn un o brif [[canolfan ariannol|ganolfannau ariannol]] y byd, a chanddi economi gwasanaethau cyfalafol gyda threthi isel a masnach rydd. Yr arian cyfred, sef [[doler Hong Cong]], yw'r wythfed arian cyfred a fasnachir mwyaf yn y byd.<ref name="bis.org">{{cite journal|url=http://www.bis.org/publ/rpfxf10t.pdf|title=Triennial Central Bank Survey: Report on global foreign exchange market activity in 2010|date=December 2010|work=Monetary and Economic Department|page=12|publisher=[[Bank for International Settlements]]|accessdate=15 October 2011}}</ref>


[[Delwedd:HongCong03LB.jpg|chwith|bawd|260px]]
[[Delwedd:HongCong03LB.jpg|chwith|bawd|260px]]
Llinell 77: Llinell 75:
==Fferiau Star==
==Fferiau Star==
Dechreuodd gwasanaeth fferi dros [[Harbwr Fictoria]] rhwng Ynys Hong Cong a [[Kowloon]] ym 1880, a ffurfiwyd [[Cwmni Fferiau Star]] ym 1889, sydd yn parhau i gynnig yr un wasanaeth..<ref>[http://www.starferry.com.hk/en/theCompany Gwefan starferry.com]</ref>
Dechreuodd gwasanaeth fferi dros [[Harbwr Fictoria]] rhwng Ynys Hong Cong a [[Kowloon]] ym 1880, a ffurfiwyd [[Cwmni Fferiau Star]] ym 1889, sydd yn parhau i gynnig yr un wasanaeth..<ref>[http://www.starferry.com.hk/en/theCompany Gwefan starferry.com]</ref>

Mae Hong Cong yn un o brif [[canolfan ariannol|ganolfannau ariannol]] y byd, a chanddi economi gwasanaethau cyfalafol gyda threthi isel a masnach rydd. Yr arian cyfred, sef [[doler Hong Cong]], yw'r wythfed arian cyfred a fasnachir mwyaf yn y byd.<ref name="bis.org">{{cite journal|url=http://www.bis.org/publ/rpfxf10t.pdf|title=Triennial Central Bank Survey: Report on global foreign exchange market activity in 2010|date=December 2010|work=Monetary and Economic Department|page=12|publisher=[[Bank for International Settlements]]|accessdate=15 October 2011}}</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 13:54, 18 Gorffennaf 2017

香港特別行政區
Hong Kong Special Administrative Region

Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Hong Cong
Baner Hong Cong Arfbais Hong Cong
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: March of the Volunteers
Lleoliad Hong Cong
Lleoliad Hong Cong
Prifddinas dim
(Victoria yn hanesyddol.)
Ardal fwyaf
(o ran poblogaeth)
Sha Tin
Iaith / Ieithoedd swyddogol Tsieineeg, Saesneg
Llywodraeth
- Prif Weithredwr CY Leung
Sefydliad
- Meddiannwyd gan y Deyrnas Unedig
- Cytundeb Nanking
- Meddiannwyd gan Japan
- Trosglwyddiad sofraniaeth

25 Ionawr 1841

29 Awst 1842
25 Rhagfyr 1941 - 15 Awst 1945
1 Gorffennaf 1997
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,104 km² (-)
4.6
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
6,864,000 (100fed)
6,748,389
6,217/km² (3ydd)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$254.2 biliwn (40fed)
$38,127 (6ed)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.927 (22ain) – uchel
Arian cyfred Doler Hong Cong (HKD)
Cylchfa amser
 - Haf
HKT (UTC+8)
Côd ISO y wlad .hk
Côd ffôn +852 (01 o Macau)

Un o ddau ranbarth gweinyddol arbennig Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Hong Cong (Tsieineeg: 香港); y llall yw Macau. Fe'i lleolir ar arfordir deheuol Tsieina wedi'i hamgylchynu gan delta'r Afon Perl a Môr De Tsieina,[1] ac mae'n enwog am ei nenlinell eang a'i harbwr naturiol dwfn. Gyda tirfas o 1,104 km2 (426 mi sgw) a phoblogaeth o saith miliwn o bobl, Hong Cong yw un o'r ardaloedd mwyaf dwys ei phoblogaeth yn y byd.[2] Mae 95 y cant o boblogaeth Hong Cong yn Tsieineaidd a 5 y cant o grwpiau ethnig eraill.[3] Daw'r mwyafrif Han yn bennaf o ddinasoedd Guangzhou a Taishan yn y dalaith gyfagos, Guangdong.[4]

Daeth Hong Cong yn drefedigaeth gan yr Ymerodraeth Brydeinig wedi'r Rhyfel Opiwm Cyntaf (1839–42). Yn wreiddiol Ynys Hong Cong yn unig oedd dan reolaeth y Prydeinwyr, ond ehangodd ffiniau'r drefedigaeth i gynnwys Gorynys Kowloon ym 1860 a'r Tiriogaethau Newydd ym 1898. Cafodd ei feddiannu gan Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi'r rhyfel atfeddiannodd Brydain Hong Cong hyd drosglwyddo sofraniaeth i Tsieina ym 1997.[5][6] Yn ystod ei chyfnod trefedigaethol mabwysiadodd llywodraeth Hong Cong bolisi o ymatal rhag ymyrryd yn yr economi dan yr ethos o anymyrraeth bositif.[7] Cafodd y cyfnod hwn ddylanwad mawr ar ddiwylliant Hong Cong, a elwir yn aml yn "cwrdd rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin",[8] ac roedd y system addysg yn arfer dilyn system Lloegr[9] nes iddi gael ei diwygio yn 2009.[10]

Hong Cong fin nos.

Dan yr egwyddor "un wlad, dwy system", mae gan Hong Cong system wleidyddol wahanol i dir mawr Tsieina.[11] Gweithreda barnwriaeth annibynnol Hong Cong dan fframwaith y gyfraith gyffredin.[12][13] Llywodraethir y system wleidyddol gan Gyfraith Sylfaenol Hong Cong, dogfen gyfansoddiadol sy'n mynnu i Hong Cong gael "gradd uchel o hunanlywodraeth" mewn pob mater ac eithrio cysylltiadau tramor ac amddiffyniad milwrol.[14][15] Er bod ei system amlbleidiol yn tyfu, mae etholyddiaeth fechan yn rheoli hanner y Cyngor Deddfwriaethol. Hynny yw, dewisir Prif Weithredwr Hong Cong, sef pennaeth y llywodraeth, gan Bwyllgor Etholiadol o 400 i 1,200 o aelodau, a bydd y system hon yn gweithredu am y 20 mlynedd gyntaf dan sofraniaeth Tsieina.[16][17][18][19]

Harbwr Victoria, Ynys Hong Cong.

Tramffyrdd Hong Cong

Dechreuodd gwaith adeiladu tramffyrd ar Ynys Hong Cong ym 1903 [20]; mae’r rhwywaith wedi cael ei estyn yn raddol, ac mae’r tramiau’n rhedeg hyd at heddiw.

Fferi Star yn gadael Kowloon

Fferiau Star

Dechreuodd gwasanaeth fferi dros Harbwr Fictoria rhwng Ynys Hong Cong a Kowloon ym 1880, a ffurfiwyd Cwmni Fferiau Star ym 1889, sydd yn parhau i gynnig yr un wasanaeth..[21]

Mae Hong Cong yn un o brif ganolfannau ariannol y byd, a chanddi economi gwasanaethau cyfalafol gyda threthi isel a masnach rydd. Yr arian cyfred, sef doler Hong Cong, yw'r wythfed arian cyfred a fasnachir mwyaf yn y byd.[22]

Cyfeiriadau

  1. "Geography and Climate, Hong Kong" (PDF). Census and Statistics Department, Llywodraeth Hong Cong. Cyrchwyd 10 January 2007.
  2. Ash, Russell (2006). The Top 10 of Everything 2007. Hamlyn. t. 78. ISBN 0-600-61532-4.
  3. "Population by Ethnicity, 2001 and 2006". Census and Statistics Department, Llywodraeth Hong Cong. Cyrchwyd 4 Hydref 2010.
  4. Fan Shuh Ching (1974). "The Population of Hong Kong". World Population Year (Committee for International Coordination of National Research in Demography): 18–20. http://www.cicred.org/Eng/Publications/pdf/c-c21.pdf. Adalwyd 25 Auwst 2010.
  5. "Joint Declaration of the Government of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland and the Government of the People's Republic of China on the Question of Hong Kong". Constitutional and Mainland Affairs Bureau, Hong Kong Government. 19 December 1984. Cyrchwyd 4 October 2010. The Government of the People's Republic of China declares that to recover the Hong The Government of the People's Republic of China declares that to recover the Hong Kong area (including Hong Kong Island, Kowloon and the New Territories, hereinafter referred to as Hong Kong) is the common aspiration of the entire Chinese people, and that it has decided to resume the exercise of sovereignty over Hong Kong with effect from 1 July 1997.
  6. "On This Day: 1997: Hong Kong handed over to Chinese control". BBC News. 1 July 1997. Cyrchwyd 9 September 2008.
  7. "The World's Most Competitive Financial Centers". CNBC. Cyrchwyd 30 October 2009.
  8. "24 hours in Hong Kong: Urban thrills where East meets West". CNN. 8 March 2009. Cyrchwyd 27 May 2009.
  9. Chan, Shun-hing; Leung, Beatrice (2003). Changing Church and State Relations in Hong Kong, 1950–2000. Hong CKong University Press. t. 24. ISBN 962-209-612-3.
  10. "Programme Highlights". Hong Kong Government. Cyrchwyd 20 October 2010.
  11. So, Dudley L.; Lin, Nan; Poston (2001). The Chinese Triangle of Mainland China, Taiwan and Hong Kong. Greenwood Publishing. tt. 13–29. ISBN 0-313-30869-1.
  12. "Basic Law, Chapter IV, Section 4". Basic Law Promotion Steering Committee. Cyrchwyd 10 November 2009.
  13. Russell, Peter H.; O'Brien, David M. (2001). Judicial Independence in the Age of Democracy: Critical Perspectives from around the World. University of Virginia Press. t. 306. ISBN 978-0-8139-2016-0.
  14. "Basic Law, Chapter II". Basic Law Promotion Steering Committee. Cyrchwyd 10 November 2009.
  15. Ghai, Yash P. (2000). Autonomy and Ethnicity: Negotiating Competing Claims in Multi-ethnic States. Cambridge University Press. tt. 92–97. ISBN 978-0-521-78642-3.
  16. "Decision of the National People's Congress on the Method for the Formation of the First Government and the First Legislative Council of the Hong Kong Special Administrative Region". Cyrchwyd 21 February 2012.
  17. "Basic Law, Chapter IV, Section 1". Basic Law Promotion Steering Committee. Cyrchwyd 10 November 2009.
  18. "Amendment to Annex I to the Basic Law of the Hong Kong Special Administrative Region of the People's Republic of China Concerning the Method for the Selection of the Chief Executive of the Hong Kong Special Administrative Region" (PDF).
  19. Rioni, S. G. (2002). Hong Kong in Focus: Political and Economic Issues. Nova Publishers. tt. 9–10. ISBN 978-1-59033-237-5.
  20. Tudalen hanes ar wefan tramffyrdd Hong Cong
  21. Gwefan starferry.com
  22. "Triennial Central Bank Survey: Report on global foreign exchange market activity in 2010". Monetary and Economic Department (Bank for International Settlements): 12. December 2010. http://www.bis.org/publ/rpfxf10t.pdf. Adalwyd 15 October 2011.
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Taleithiau AnhuiFujianGansuGuangdongGuizhouHainanHebeiHeilongjiangHenanHubeiHunanJiangsuJiangxiJilinLiaoningQinghaiShaanxiShandongShanxiSichuanYunnanZhejiang
Taleithiau dinesig BeijingChongqingShanghaiTianjin
Rhanbarthau ymreolaethol GuangxiMongolia FewnolNingxiaTibetXinjiang
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig Hong CongMacau