Cymuned (Cymru): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Deddf 1994
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
wardiau
Llinell 4: Llinell 4:

Nid oes rhaid i gymuned fod a Chyngor Cymuned; mae poblogaeth rhai cymunedau yn rhy fach i gynnal cyngor. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, gall cymuned ofyn i'r cyngor sir neu gyngor bwrdeisdref sirol berthnasol am gael ei grwpio gyda chymunedau eraill er mwyn dod dan un cyngor cymuned ar y cyd, cyn belled a bod y cymunedau i gyd yn yr un sir neu fwrdeisdref sirol.

At bwrpas etholiad, gall cymuned gael ei rhannu yn nifer o wardiau etholiadol, neu gall fod un ward gyda'r un enw a'r un ffiniau a'r gymuned.

Fersiwn yn ôl 13:12, 5 Mawrth 2008

Cymuned yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru. Hyd 1974, rhennid Cymru yn blwyfi sifil ar bwrpas llywodraeth leol. Roedd yn rhain wedi eu seilio yn fras ar y plwyfi eglwysig. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972, diddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 869 o gymunedau (adran 27 o'r Ddeddf). Amrywia'r cymunedau o rannau o ddinasoedd gyda phoblogaeth sylweddol - y fwyaf o ran poblogaeth yw Y Barri gyda phoblogaeth o 45,053 - hyd at o leiaf ddwy gymuned sydd heb boblogaeth barhaol o gwbl, Bae Baglan a Morfa Margam.

Gall pob cymuned gael Cyngor Cymuned. Gall Cyngor Cymuned ei alw ei hun yn Gyngor Trefol neu'n Gyngor Dinesig lle mae hyn yn addas; mae dwy gymuned yn ddinasoedd ar hyn o bryd: Tyddewi a Bangor. Rhennir dinasoedd mwy, megis Caerdydd, yn nifer o gymunedau. Fel rheol, gelwir arweinydd Cyngor Dinesig neu Gyngor Trefol yn Faer.

Gweler hefyd