Bow Street: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tivedshambo (sgwrs | cyfraniadau)
Foto
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Tivedshambo 2008-03-01 Bow Street.jpg|thumb|Bow Street]]
Pentref yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] yw '''Bow Street'''. Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr [[A487]] tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o [[Aberystwyth]]. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar [[Rheilffordd y Cambrian|Reilffordd y Cambrian]]. Mae yn ardal [[Genau'r Glyn]].

Fersiwn yn ôl 22:28, 4 Mawrth 2008

Bow Street

Pentref yng Ngheredigion yw Bow Street. Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr A487 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Mae yn ardal Genau'r Glyn.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Yn ôl rhai awdurdodau 'Nantafallen' neu 'Nantyfallen' oedd hen enw'r gymdogaeth, ond 'Bow Street' yw'r unig enw arni heddiw (does dim fersiwn Cymraeg).

'Capel y Garn' yw enw'r hen gapel ym Mhen-y-Garn. Evan Richardson, athro John Elias a Hugh Owen, oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street tua'r flwyddyn 1780. Codwyd y capel cyntaf yn 1793, a chodwyd capel newydd ar y safle yn 1833 am fod y gynulleidfa wedi cynyddu gymaint.

O ganol y pentref mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach Clarach a Bae Clarach ar yr arfordir, ar y ffordd i'r Borth. I'r de mae Comins Coch ac i'r dwyrain Plas Gogerddan. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad Rhaeadr Gwy. Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhydypennau.

Enwogion