Medrawd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:
Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer [[Gwenhwyfach]].
Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer [[Gwenhwyfach]].


Cyfeirir at Fedrawd fel un o'r 'Trywyr Gwarth' mewn triawd hir yn [[Troedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]] sy'n rhoi hanes Camlan.
Cyfeirir at Fedrawd fel un o'r 'Trywyr Gwarth' mewn triawd hir yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]] sy'n rhoi hanes Camlan.


[[Categori:Cylch Arthur]]
[[Categori:Cylch Arthur]]

Fersiwn yn ôl 08:29, 1 Mawrth 2008

Medrawd, llun gan H.J. Ford

Cymeriad yn y chwedlau am y Brenin Arthur yw Medrawd, weithiau Medrod. Dywedir ei fod yn nai i Arthur, neu mewn ffynonellau eraill yn fab anghyfreithlon iddo, ac iddo wrthryfela yn ei erbyn, gan achosi Brwydr Camlan.

Ceir y cofnod cynharaf am y frwydr yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 537:

Gueith camlann in qua Arthur eroxt Medraut corruerunt.
("Brwydr Camlan, yn yr hon y bu farw Arthur a Medrawd")

Ceir yr hanes yn llawn gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae. Geilw'r ymerawdwr Lucius Tiberius ar Brydain i dalu teyrnged i Rufain unwaith eto. Mae Arthur yn gorchfygu Lucius yng Ngâl, ond yn y cyfamser mae Medrawd yn cipio gorsedd Prydain. Dychwela Arthur a lladd Medrawd ym mrwydr Camlan, ond fe'i clwyfir yn angeuol ei hun ac mae'n cael ei gludo i Ynys Afallach ac yn trosgwlyddo'r deyrnas i'w nai Cystennin.

Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach.

Cyfeirir at Fedrawd fel un o'r 'Trywyr Gwarth' mewn triawd hir yn Nhrioedd Ynys Prydain sy'n rhoi hanes Camlan.