Hanes Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot Adding: ga:Stair na hÉireann
PipepBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: ca:Història d'Irlanda
Llinell 22: Llinell 22:
[[Categori:Hanes Iwerddon| ]]
[[Categori:Hanes Iwerddon| ]]


[[ca:Història d'Irlanda]]
[[cs:Dějiny Irska]]
[[cs:Dějiny Irska]]
[[de:Geschichte Irlands]]
[[de:Geschichte Irlands]]

Fersiwn yn ôl 23:38, 26 Chwefror 2008

Daniel O'Connell.

Mae Hanes Iwerddon yn dechrau gyda dyfodiad pobloedd cynnar pan nad oedd Iwerddon yn ynys, gan fod tir yn ei chysylltu ag Ynys Prydain ac ag Ewrop. Mae'r olion cyntaf sydd wedi eu darganfod hyd yn hyn yn dyddio i tua 8000 CC.. Mae llawer mwy o olion o'r cyfnod Neolithig, gyda nifer o feddau neu gromlechi enwog o'r cyfnod yma, megis Newgrange.

Credir i'r cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys tua dechrau neu ganol y 5ed ganrif, gyda Sant Padrig yn arbennig o amlwg. Erbyn tua 600 roedd yr hen grefydd wedi diflannu i bob pwrpas. O tua 800 bu llawer o ymosodiadau gan y Llychlynwyr, a bu difrod fawr ar y mynachlogydd o ganlyniad. Ymsefydlodd rhai o'r Llychlynwyr ar arfordir dwyreiniol Iwerddon a thyfodd Dulyn yn ganolfan bwysig yn y byd Llychlynaidd. Roedd yna gysylltiadau cryf rhwng "Gwŷr Dulyn" a brenhinoedd Gwynedd erbyn yr Oesoedd Canol. Ganwyd Gruffudd ap Cynan yn Nulyn a'i fagu yn Swords gerllaw. Yr oedd yn fab i Cynan ap Iago a Ragnell ferch Olaf Arnaid, brenin Daniaid Dulyn, ac yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth o Iwerddon. Yn 1169 ymosodwyd ar yr ynys gan arglwyddi Normanaidd, llawer ohonynt o arglwyddiaethau Normanaidd Cymru, megis eu harweinydd Richard de Clare, 2il Iarll Penfro, a elwid yn Strongbow. Roedd y rhain yn ddeiliaid y goron Seisnig, ond dim ond yn raddol y daeth brenhinoedd Lloegr i lwyr reoli Iwerddon. Am ganrifoedd dim ond Y Rhanbarth Seisnig yr oeddynt yn ei reoli, gyda ffiniau hwn yn amrywio yn ôl llwyddiant milwrol y ddwy ochr. Bu cyfres o ymgyrchoedd milwrol rhwng 1534 a 1691, yn cynnwys ymgyrch gan Oliver Cromwell yn 1649–50 pan laddwyd miloedd o Wyddelod. Yn yr un cyfnod trawsblannwyd miloedd o ymfudwyr o Loegr a'r Alban i Iwerddon.

Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn Gatholigion, unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu gwrthryfel yn 1798 gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer. Yn 1801, gwnaed i ffwrdd a senedd Iwerddon a chafodd yr ynys ei hymgorffori yn y Deyrnas Unedig. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, Daniel O'Connell, ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan "Y Newyn Mawr" (Gwyddeleg: An Gorta Mór). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn 1911. Yn rhannol oherwydd hyn, ac hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd.

Datganiad Annibyniaeth Iwerddon, a gyhoeddwyd gan arweinwyr Gwrthryfel y Pasg

Parhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif. Bu hefyd ymgyrchoedd am hunanlywodraeth trwy ddulliau seneddol, ac yn y 1870au daeth hyn yn bwnc llosg trwy ymdrechion Charles Stewart Parnell. Cyflwynodd y prif weinidog Prydeinig William Ewart Gladstone ddau fesur i roi hunanlywodraeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, ond gorchfygwyd hwy yn Nhy'r Cyffredin. Yn 1910 roedd y Blaid Seneddol Wyddelig dan John Redmond mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Rhoddodd dechreuad y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 derfyn ar y mesur am y tro.

Yn 1916 bu gwrthryfel arall, Gwrthryfel y Pasg, gydag ymladd ffyrnig yn ninas Dulyn dros wythnos y Pasg. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y fyddin Brydeinig a dienyddiwyd nifer o'r arweinwyr, yn cynnwys Padraig Pearse a James Connolly. Fodd bynnag, trodd hyn lawer o boblogaeth Iwerddon o blaid annibyniaeth lwyr. Yn Ethloliad Cyffredinol 1918, collodd y Blaid Seneddol Wyddelig, oedd yn ceisio hunanlywodraeth, bron y cyfan o'u seddau yn Iwerddon i Sinn Féin, oedd yn hawlio annibyniaeth lwyr. Roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y Dáil Cyntaf yn 1919, yn eu plith Éamon de Valera a Michael Collins. Datblygodd rhyfel rhwng Byddin Weriniaethol Iwerddon (yr I.R.A) a'r fyddin Brydeinig a'i hunedau cynorthwyol megis y "Black and Tans". Yn 1922 arwyddwyd cytundeb rhwng yr arweinwyr Gwyddelig, Arthur Griffith a Michael Collins, a'r llywodraeth Brydeinig dan David Lloyd George. Roedd y cytundeb yma yn rhoi annibyniaeth i 26 o siroedd Iwerddon, gan greu Gweriniaeth Iwerddon, ond gyda chwech sir yn y gogledd-ddwyrain, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn Brotestaniaid, yn parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

Gweler hefyd


Ty Celtaidd Hanes y Gwledydd Celtaidd Sbiral triphlyg

Hanes yr Alban | Hanes Cernyw | Hanes Cymru | Hanes Iwerddon | Hanes Llydaw | Hanes Manaw

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid