Bangor-is-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
llun etc
Maelor (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi symud Bangor Is Coed i Bangor-is-y-coed trwy ailgyfeiriad.: Enw swyddogol (Cymraeg a Saesneg!)
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:53, 25 Chwefror 2008

Bangor-is-y-coed
Wrecsam
Gweler hefyd Bangor (gwahaniaethu).

Mae Bangor Is Coed (hefyd Bangor-is-y-coed a Bangor Is-Coed; Saesneg: Bangor-on-Dee) yn bentref hanesyddol ar Afon Dyfrdwy ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Mae cae rasio ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.

Mynachlog Bangor Is-coed

Roedd clas (mynachlog) Bangor Is Coed yn ganolfan crefydd a dysg pwysig iawn yn hanes cynnar Cymru a'r Brydain Geltaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant Dunawd yn y 6ed ganrif, gyda'i feibion Deiniol Wyn (nawddsant Bangor yng Ngwynedd), Cynwyl a Gwarthan. Roedd y sant wedi ffoi o'r Hen Ogledd a chafodd heddwch a lloches ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno. Daeth yn ganolfan bwysicaf cantref Maelor (a chwmwd Maelor Gymraeg yn ddiweddarach).

Yn ôl yr hanesydd o Sais Beda, cafodd Bangor Is-Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl Brwydr Caer (tua 615 neu 616). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin Aethelfrith o Ddeira (Northumbria heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.

Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.

Y pentref

Pont bwa Bangor Is Coed

Mae pont pump bwa sy'n dyddio o tua 1660 yn rhychwantu Afon Dyfrdwy yn y pentref; credir iddo gael ei chodi gan y pensaer enwog Inigo Jones.