Disgo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 170.185.144.19 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan SieBot. |
|||
Llinell 47: | Llinell 47: | ||
[[uk:Диско]] |
[[uk:Диско]] |
||
[[zh:迪斯科]] |
[[zh:迪斯科]] |
||
What the freak is this language?!?! |
Fersiwn yn ôl 16:26, 22 Chwefror 2008
Disco / Discothèque
- Ffasiwn o gerddoriaeth ddawns yw Disco, croes rhwng funk a soul gyda phatrwm rhyddmig rhwng 110 a 136 curiad y munud.
- Disco hefyd yw clwb lle mae bobl yn dawnsio i recordiau.
- Gair Ffrangeg yw discothèque (cynaniad: dis-co-TEC) sy'n ystyr "llyfrgell recordiau".
- Mae yna ddisco symudol hefyd; chwaraewyr recordiau gyda mwyhaduron gellir gludo er mwyn cynnal dawns yn unrhyw fan.
Hanes Disco
Fe agorwyd y discothèque cyntaf yn 1941. La Discothèque, Rue de la Huchette, Paris. O amgylch 1950-1951 fe agorwyd llawer o glybiau discothèque ym Mharis, hynny yw; clybiau oedd yn chwarae recordiau yn hytrach na seindorf ddawns.
Fe agorwyd y disco cyntaf yng Nghymru yn 1964; y Cardiff Discothèque Club, Charles St. Caerdydd. Roedd llawer neuadd ddawns yn chwarae recordiau neu yn cynnal "disco", ond hwn oedd y clwb discothèque cyntaf yng Nghymru. Roeddyn nhw'n chwarae cerddoriath fel Soul, Ska a R&B.
Yn 1965 daeth e'n ffasiynol i ddawnsio'r Go-go. Roedd dawns y Go-go yn addas iawn i'r disco gan ei fod yn rhoi cyfle i'r dawnswyr rhodresa ac arddangos eu hunain. Doedd dim recordiau wedi wneud yn arbennig i chwarae mewn disco tan 1973. Roedd recordiau addas yn bodoli, fel Shaft (1971) gan Isaac Hayes. Fe fydd rhai yn dweud mae Soul Makossa (1972) gan Manu Dibango oedd y record ddisco cyntaf. Mae'n debyg mae'r record ddisco cyntaf i ddod yn boblogaidd oedd Rock Your Baby (1974) gan George McCrae.
Oes y Disco
1975 oedd y flwyddyn pan ddaeth Disco yn boblogaidd gyda recordiau fel The Hustle gan Van McCoy, Love to Love You Baby gan Donna Summer a Never Can Say Goodbye gan Gloria Gaynor. Oes y Disco oedd 1977 - 1979. Gafodd hwn wthiad bach yn 1977 gan y ffilm "Saturday Night Fever" (prif actor: John Traviolta) ac yn 1979 gan "The Bitch" (prif actores: Joan Collins).
Datblygiadau diweddarach
Yn yr 80au fe ddatblygodd House a Techno o gerddoriaeth Disco.