Y Cymro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 27: Llinell 27:
==Hanes==
==Hanes==
[[Delwedd:First page of 'Y Cymro' for St David's Day (6788943160).jpg|bawd|chwith|Tudalen flaen 'Y Cymro' ar Ddydd Gŵyl Dewi 1954; Geoff Charles]]
[[Delwedd:First page of 'Y Cymro' for St David's Day (6788943160).jpg|bawd|chwith|Tudalen flaen 'Y Cymro' ar Ddydd Gŵyl Dewi 1954; Geoff Charles]]
Yn 1845 fe gyhoeddwyd papur o'r enw 'Y Cymro' gyntaf, papur eglwysig ei naws gyda thipyn o Saesneg. Cyhoeddwyd y papur yma ym Mangor gan yr argraffydd Edward Williams ond daeth i ben wedi dwy flynedd oherwydd dyledion. Cafodd gartref yn Llundain am flwyddyn gyda John ames (Ioan Meirion) fel golygydd. Symudodd i Dreffynnon am gyfnod rhwng 1851 a 1860 a'i cyhoeddwyd gan William Morris, yna bu yn Ninbych am chwe blynedd. Wedi bwlch o bedair blynedd fe'i ail-gychwynwyd gan [[Isaac Clarke]], Lerpwl (gynt o 'Siop Nain', [[Rhuthun]]) ar 22 Mai 1890 o dan olygyddiaeth [[Isaac Foulkes]] (Llyfrbryf). Yn ystod y cyfnod, cyhoeddodd [[Daniel Owen]] benodau o'i nofel yn y papur.
Yn 1845 fe gyhoeddwyd papur o'r enw 'Y Cymro' gyntaf. Yna, fe'i datblygwyd gan [[Isaac Clarke]], Lerpwl (gynt o 'Siop Nain', [[Rhuthun]]) ar 22 Mai 1890. Yn 1907 y bardd [[T. Gwynn Jones]] oedd y golygydd.<ref>[http://www.rhwydwaitharchifaucymru.info/cgi-bin/anw/fulldesc_nofr?inst_id=42&coll_id=10020&expand= Gweler 'Rhwydwaith Archifau Cymru']</ref>. Cafodd ei ail-lawnsio yn [[Dolgellau|Nolgellau]] yn 1920 gan [[William Evans]].


Yn 1907 mudodd y papur i'r Wyddgrug o dan olygyddiaeth y bardd [[T. Gwynn Jones]] oedd y golygydd. Daeth i ben eto rhwng 1909 a 1914 cyn cael cartref yn Nolgellau. Papur crefyddol ei naws oedd hwn o dan olygyddiaeth Evan Williams Evans a daeth i ben yn 1931.<ref>[http://www.rhwydwaitharchifaucymru.info/cgi-bin/anw/fulldesc_nofr?inst_id=42&coll_id=10020&expand= Gweler 'Rhwydwaith Archifau Cymru']</ref>. Cafodd ei ail-lansio yn [[Dolgellau|Nolgellau]] yn 1920 gan [[William Evans]].
Prynwyd y papur gan [[Rowland Thomas]] (c.1887-1959), yn Rhagfyr [[1932]] a'i symud i Wrecsam, gyda [[John Tudor Jones (John Eilian)|John Eilian]] yn olygydd. Symudodd i Groesoswallt ac yna i'r Wyddgrug.<ref>''Y Cymro,'' Ionawr 5, 2007</ref>.
=== Oes fodern===
Cychwynnodd oes fodern y papur newydd yn 1932 pan brynwyd y teitl gan [[Rowland Thomas]] (c.1887-1959) o gwmni Woodalls (rhan o Hughes a'i Fab yn Wrecsam). Er nad oedd yn siaradwr Cymraeg, breuddwyd Thomas oedd sefydlu papur newydd Cymraeg. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar [[4 Rhagfyr]] [[1932]], gyda [[John Tudor Jones (John Eilian)|John Eilian]] yn olygydd. Nid oedd y papur yn gwbl llewyrchus i ddechrau ond erbyn 1939 roedd gobaith o wneud elw. Symudwyd y swyddfa i Groesoswallt lle aeth y papur o nerth i nerth o dan olygyddiaeth [[John Roberts Williams]]. Symudwyd eto i'r Wyddgrug pan ddaeth y papur yn ran o gwmni Papurau Newydd Gogledd Cymru.<ref>''Y Cymro,'' Ionawr 5, 2007</ref>.


Yn 2003 cyhoeddwyd y byddai fersiwn ddigidol o'r papur ar gael drwy gwmni NewsStand.<ref>{{dyf newyddion|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3120000/newsid_3127000/3127077.stm|teitl=Cyhoeddi'r Cymro'n ddigidol|cyhoeddwr=BBC Cymru|dyddiad=5 Awst 2003|dyddiadcyrchu=29 Mehefin 2017}}</ref> Yna yn 2004, prynwyd y papur can gwmni y Cambrian News, rhan o grŵp newyddion Tindle, a symudodd y swyddfa i Borthmadog.<ref>{{dyf newyddion|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4080000/newsid_4082100/4082127.stm|teitl=Golygydd newydd i'r Cymro|cyhoeddwr=BBC Cymru|dyddiad=9 Rhagfyr 2004|dyddiadcyrchu=29 Mehefin 2017}}</ref> Ail-lansiwyd y papur ar newydd wedd yn Nhachwedd 2004.<ref>{{dyf newyddion|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4010000/newsid_4010900/4010987.stm|teitl=
Yn 2003 cyhoeddwyd y byddai fersiwn ddigidol o'r papur ar gael drwy gwmni NewsStand.<ref>{{dyf newyddion|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3120000/newsid_3127000/3127077.stm|teitl=Cyhoeddi'r Cymro'n ddigidol|cyhoeddwr=BBC Cymru|dyddiad=5 Awst 2003|dyddiadcyrchu=29 Mehefin 2017}}</ref> Yna yn 2004, prynwyd y papur can gwmni y Cambrian News, rhan o grŵp newyddion Tindle, a symudodd y swyddfa i Borthmadog.<ref>{{dyf newyddion|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4080000/newsid_4082100/4082127.stm|teitl=Golygydd newydd i'r Cymro|cyhoeddwr=BBC Cymru|dyddiad=9 Rhagfyr 2004|dyddiadcyrchu=29 Mehefin 2017}}</ref> Ail-lansiwyd y papur ar newydd wedd yn Nhachwedd 2004.<ref>{{dyf newyddion|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4010000/newsid_4010900/4010987.stm|teitl=
Llinell 40: Llinell 42:


==Golygyddion==
==Golygyddion==
* [[T. Gwynn Jones]] (1907-)
* John Eilian (1932-)
* John Eilian (1932-)
* [[Einion Evans]]
* John Roberts Williams
* J R Lloyd Hughes
* Rob Jones
* [[John Roberts Williams]] (1942-1962)
* Ioan Hughes (Rhagfyr 2004)
* Glyn Griffiths
* Gwyn Jones
* Llion Griffiths (1966-1988)
* Glyn Evans (1988-1999)
* Robert Henri Jones (1999-2004)
* Ioan Hughes (Rhagfyr 2004-Hydref 2006)
* William H Owen (Hydref 2006)
* William H Owen (Hydref 2006)
* Dylan Halliday (2009-)
* Dylan Halliday (2009-)

Fersiwn yn ôl 17:25, 2 Gorffennaf 2017

Y Cymro
Clawr Y Cymro, 5 Hydref 2007
MathPapur newydd wythnosol
FformatCompact
GolygyddDylan Halliday
Sefydlwyd1932
IaithCymraeg
Pencadlys9 Bank Place, Porthmadog, Gwynedd, LL48 9AA
Cylchrediad4,082 (2003)
Gwefanwww.y-cymro.com
Prif swyddfa Y Cymro, Porthmadog.

Papur newydd Cymraeg wythnosol yw Y Cymro. Erbyn heddiw Y Cymro yw'r unig bapur newydd cenedlaethol yn y Gymraeg.

Hanes

Tudalen flaen 'Y Cymro' ar Ddydd Gŵyl Dewi 1954; Geoff Charles

Yn 1845 fe gyhoeddwyd papur o'r enw 'Y Cymro' gyntaf, papur eglwysig ei naws gyda thipyn o Saesneg. Cyhoeddwyd y papur yma ym Mangor gan yr argraffydd Edward Williams ond daeth i ben wedi dwy flynedd oherwydd dyledion. Cafodd gartref yn Llundain am flwyddyn gyda John ames (Ioan Meirion) fel golygydd. Symudodd i Dreffynnon am gyfnod rhwng 1851 a 1860 a'i cyhoeddwyd gan William Morris, yna bu yn Ninbych am chwe blynedd. Wedi bwlch o bedair blynedd fe'i ail-gychwynwyd gan Isaac Clarke, Lerpwl (gynt o 'Siop Nain', Rhuthun) ar 22 Mai 1890 o dan olygyddiaeth Isaac Foulkes (Llyfrbryf). Yn ystod y cyfnod, cyhoeddodd Daniel Owen benodau o'i nofel yn y papur.

Yn 1907 mudodd y papur i'r Wyddgrug o dan olygyddiaeth y bardd T. Gwynn Jones oedd y golygydd. Daeth i ben eto rhwng 1909 a 1914 cyn cael cartref yn Nolgellau. Papur crefyddol ei naws oedd hwn o dan olygyddiaeth Evan Williams Evans a daeth i ben yn 1931.[1]. Cafodd ei ail-lansio yn Nolgellau yn 1920 gan William Evans.

Oes fodern

Cychwynnodd oes fodern y papur newydd yn 1932 pan brynwyd y teitl gan Rowland Thomas (c.1887-1959) o gwmni Woodalls (rhan o Hughes a'i Fab yn Wrecsam). Er nad oedd yn siaradwr Cymraeg, breuddwyd Thomas oedd sefydlu papur newydd Cymraeg. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar 4 Rhagfyr 1932, gyda John Eilian yn olygydd. Nid oedd y papur yn gwbl llewyrchus i ddechrau ond erbyn 1939 roedd gobaith o wneud elw. Symudwyd y swyddfa i Groesoswallt lle aeth y papur o nerth i nerth o dan olygyddiaeth John Roberts Williams. Symudwyd eto i'r Wyddgrug pan ddaeth y papur yn ran o gwmni Papurau Newydd Gogledd Cymru.[2].

Yn 2003 cyhoeddwyd y byddai fersiwn ddigidol o'r papur ar gael drwy gwmni NewsStand.[3] Yna yn 2004, prynwyd y papur can gwmni y Cambrian News, rhan o grŵp newyddion Tindle, a symudodd y swyddfa i Borthmadog.[4] Ail-lansiwyd y papur ar newydd wedd yn Nhachwedd 2004.[5]. Lansiwyd gwefan newydd Y Cymro yn 2011, gyda detholiad o storiau o'r papur a fersiwn digidol llawn drwy danysgrifiad.[6]

Ym mis Mawrth 2017 cyhoeddodd cwmni Tindle Newspapers fod y papur ar werth a byddai'r papur yn dod i ben ym Mehefin os nad oedd prynwr.[7] Dywedodd cwmni Y Lolfa nad oedden nhw mewn sefyllfa i'w brynu[8]. Erbyn mis Mehefin roedd pedwar grŵp wedi dangos diddordeb mewn prynu'r papur er fod trafodaethau'n parhau rhyngddynt a Tindle a'r Cyngor Llyfrau. Felly disgwylir i rifyn 30 Mehefin 2017 fod yr olaf i'w gyhoeddi am y tro.[9]

Cylchrediad

Yn 2004 roedd y cylchrediad tua 4,000 ond lawr i 3,000 erbyn 2009 ac yn 2,000 erbyn 2017. Roedd yn gwerthu dros 28,000 ar ei anterth yng nghyfnod John Roberts Williams.[10].

Golygyddion

  • John Eilian (1932-)
  • Einion Evans
  • J R Lloyd Hughes
  • John Roberts Williams (1942-1962)
  • Glyn Griffiths
  • Gwyn Jones
  • Llion Griffiths (1966-1988)
  • Glyn Evans (1988-1999)
  • Robert Henri Jones (1999-2004)
  • Ioan Hughes (Rhagfyr 2004-Hydref 2006)
  • William H Owen (Hydref 2006)
  • Dylan Halliday (2009-)

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. Gweler 'Rhwydwaith Archifau Cymru'
  2. Y Cymro, Ionawr 5, 2007
  3. Cyhoeddi'r Cymro'n ddigidol , BBC Cymru, 5 Awst 2003. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2017.
  4. Golygydd newydd i'r Cymro , BBC Cymru, 9 Rhagfyr 2004. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2017.
  5. Y Cymro ar newydd wedd , BBC Cymru, 14 Tachwedd 2004. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2017.
  6.  Y Cymro – gwefan newydd sbon (cipolwg cyntaf). Haciaith (8 Mawrth 2011).
  7. Papur newydd Y Cymro ar werth , Golwg360, 24 Mawrth 2017. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2017.
  8.  Y Lolfa “ddim mewn sefyllfa” i brynu’r Cymro. Golwg360 (24 Mawrth 2017).
  9. Y Cymro – ar werth am y tro olaf? , Golwg360, 29 Mehefin 2017.
  10. Mympwy