Y Fro Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
bathu'r term am y tro cyntaf
Llinell 3: Llinell 3:


== Tiriogaeth y Fro Gymraeg ==
== Tiriogaeth y Fro Gymraeg ==
Mae tiriogaeth y Fro Gymraeg yn anodd ei diffinio'n fanwl, yn rhannol oherwydd y newidiadau mawr ym map ieithyddol Cymru dros y degawdau diwethaf. Genhedlaeth neu ddwy yn ôl buasai rhywun yn medru dweud fod bron y cyfan o orllewin Cymru, o [[Ynys Môn]] yn y gogledd i ogledd [[Sir Benfro|Penfro]] a chyffiniau [[Cwm Gwendraeth]] yn y de ac hyd at [[Dyffryn Aman]] yn y rhan ddwyreiniol o sir Gar, yn gorwedd yn y Fro Gymraeg a'i bod yn cynnwys yn ogystal rannau pur sylweddol o orllewin [[Powys]] a'r hen sir [[Clwyd]]. Ond heddiw mae tiriogaeth yr iaith fel iaith y mwyafrif wedi crebachu.
Mae tiriogaeth y Fro Gymraeg yn anodd ei diffinio'n fanwl, yn rhannol oherwydd y newidiadau mawr ym map ieithyddol Cymru dros y degawdau diwethaf. Genhedlaeth neu ddwy yn ôl buasai rhywun yn medru dweud fod bron y cyfan o orllewin Cymru, o [[Ynys Môn]] yn y gogledd i ogledd [[Sir Benfro|Penfro]] a chyffiniau [[Cwm Gwendraeth]] yn y de ac hyd at [[Dyffryn Aman]] yn y rhan ddwyreiniol o sir Gar, yn gorwedd yn y Fro Gymraeg a'i bod yn cynnwys yn ogystal rannau pur sylweddol o orllewin [[Powys]] a'r hen sir [[Clwyd]]. Ond heddiw mae tiriogaeth yr iaith fel iaith y mwyafrif wedi crebachu. Oherwydd y newid syfrdanol hwn, cyhoeddodd [[Owain Owain]] map o'r [[Fro Gymraeg]] yn Nhafod y Ddraig, a hynny yn Ionawr 1964, ble bathwyd fel term gwleidyddol am y tro cyntaf.


Serch hynny gellid dadlau fod y rhan fwyaf o dir pedair o siroedd Cymru yn ffurfio calon y Fro Gymraeg heddiw, sef [[Gwynedd]], [[Sir Gaerfyrddin]], [[Ceredigion]] ac [[Ynys Môn]], ond hyd yn oed yn y siroedd hynny ni ellir dweud fod pob tref a phentref yn gadarnle Cymraeg. Ceir ardaloedd eraill y tu allan i'r pedair sir hyn gyda chanran sylweddol o siaradwyr Cymraeg, e.e. rhannau o sir [[Castell-nedd Port Talbot]], rhannau o orllewin [[Powys]], gogledd [[Sir Benfro]], ucheldir sir [[Conwy (sir)|Conwy]] (yn enwedig [[Dyffryn Conwy]]), ucheldir a chefn gwlad [[Sir Ddinbych]], a rhannau o sir [[Abertawe (sir)|Abertawe]].
Serch hynny gellid dadlau fod y rhan fwyaf o dir pedair o siroedd Cymru yn ffurfio calon y Fro Gymraeg heddiw, sef [[Gwynedd]], [[Sir Gaerfyrddin]], [[Ceredigion]] ac [[Ynys Môn]], ond hyd yn oed yn y siroedd hynny ni ellir dweud fod pob tref a phentref yn gadarnle Cymraeg. Ceir ardaloedd eraill y tu allan i'r pedair sir hyn gyda chanran sylweddol o siaradwyr Cymraeg, e.e. rhannau o sir [[Castell-nedd Port Talbot]], rhannau o orllewin [[Powys]], gogledd [[Sir Benfro]], ucheldir sir [[Conwy (sir)|Conwy]] (yn enwedig [[Dyffryn Conwy]]), ucheldir a chefn gwlad [[Sir Ddinbych]], a rhannau o sir [[Abertawe (sir)|Abertawe]].
Llinell 20: Llinell 20:
== Diffinio'r Fro Gymraeg yn 1964 ==
== Diffinio'r Fro Gymraeg yn 1964 ==


Crewyd y term 'Y Fro Gymraeg' gan [[Owain Owain]]. Mewn ysgrif ("ONI ENILLIR Y FRO GYMRAEG. . . . ") yn [[Y Cymro]], [[12 Tachwedd]], [[1964]], rhoddir ffurf ar y syniad o ganolbwyntio'r frwydr ar yr ardaloedd Cymraeg. Dywedodd Owain yn ei erthygl y frawddeg enwog: 'Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.'
Diffiniwyd 'Y Fro Gymraeg' gan [[Owain Owain]] yn Rhifyn 4 o [[Dafod y Ddraig]] yn Ionawr [[1964]]. Mewn ysgrif ("ONI ENILLIR Y FRO GYMRAEG. . . . ") yn [[Y Cymro]], [[12 Tachwedd]], [[1964]], rhoddir ffurf ar y syniad o ganolbwyntio'r frwydr ar yr ardaloedd Cymraeg. Dywedodd Owain yn ei erthygl y frawddeg enwog: 'Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.'


Dilynwyd ef gan yr Athro J. R. Jones ac yna [[Emyr Llewelyn]] a ffurfiodd [[Mudiad Adfer]] gyda'r nôd o warchod Y Fro Gymraeg.
Dilynwyd ef gan yr Athro J. R. Jones ac yna [[Emyr Llewelyn]] a ffurfiodd [[Mudiad Adfer]] gyda'r nôd o warchod Y Fro Gymraeg.

Fersiwn yn ôl 22:41, 20 Chwefror 2008

Ardaloedd Cymru yn ôl nifer y siaradwyr Cymraeg

Y Fro Gymraeg yw'r enw a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardaloedd yng Nghymru lle mae'r iaith Gymraeg ar ei chryfaf gyda o leiaf 50% o'r boblogaeth yn medru'r iaith; dyma gadarnle yr iaith Gymraeg heddiw. Er bod y term yn cael ei defnyddio gan nifer o bobl, nid oes cytundeb cyffredinol am union ffiniau'r Fro Gymraeg. Yn ogystal, nid yw'r Fro Gymraeg yn cael ei chydnabod yn swyddogol fel tiriogaeth ieithyddol a diwyllianol, mewn cyferbyniad i'r sefyllfa yn Iwerddon a'r Alban lle ceir y Gaeltacht a'r Gàidhealtachd swyddogol.

Tiriogaeth y Fro Gymraeg

Mae tiriogaeth y Fro Gymraeg yn anodd ei diffinio'n fanwl, yn rhannol oherwydd y newidiadau mawr ym map ieithyddol Cymru dros y degawdau diwethaf. Genhedlaeth neu ddwy yn ôl buasai rhywun yn medru dweud fod bron y cyfan o orllewin Cymru, o Ynys Môn yn y gogledd i ogledd Penfro a chyffiniau Cwm Gwendraeth yn y de ac hyd at Dyffryn Aman yn y rhan ddwyreiniol o sir Gar, yn gorwedd yn y Fro Gymraeg a'i bod yn cynnwys yn ogystal rannau pur sylweddol o orllewin Powys a'r hen sir Clwyd. Ond heddiw mae tiriogaeth yr iaith fel iaith y mwyafrif wedi crebachu. Oherwydd y newid syfrdanol hwn, cyhoeddodd Owain Owain map o'r Fro Gymraeg yn Nhafod y Ddraig, a hynny yn Ionawr 1964, ble bathwyd fel term gwleidyddol am y tro cyntaf.

Serch hynny gellid dadlau fod y rhan fwyaf o dir pedair o siroedd Cymru yn ffurfio calon y Fro Gymraeg heddiw, sef Gwynedd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion ac Ynys Môn, ond hyd yn oed yn y siroedd hynny ni ellir dweud fod pob tref a phentref yn gadarnle Cymraeg. Ceir ardaloedd eraill y tu allan i'r pedair sir hyn gyda chanran sylweddol o siaradwyr Cymraeg, e.e. rhannau o sir Castell-nedd Port Talbot, rhannau o orllewin Powys, gogledd Sir Benfro, ucheldir sir Conwy (yn enwedig Dyffryn Conwy), ucheldir a chefn gwlad Sir Ddinbych, a rhannau o sir Abertawe.

Yr argyfwng tai

Un o'r ffactorau pwysicaf sy'n effeithio ar fywyd yn y Fro yw'r argyfwng tai, neu'n hytrach diffyg tai, ar gyfer pobl leol. Mae'r Fro Gymraeg wedi profi mewnlifiad sylweddol gan bobl o Loegr, di-Gymraeg, ers yr 1970au. Yn ogystal ceir canran uchel o dai haf mewn llawer o leoedd yn y fro, e.e. cylch Aberdaron yn Llŷn. Canlyniad hyn yw fod prisiau tai wedi codi'n sylweddol iawn tra bod cyflogau'n aros yn isel ac mae pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd os nad amhosibl i brynu tŷ yn eu bro enedigol.

Addysg yn y Fro Gymraeg

Yn y Fro Gymraeg y ceir y canran uchaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg ac i ryw raddau mae'r cynnydd mewn addysg Gymraeg yn ffactor sydd wedi hybu'r iaith er gwaethaf problemau economaidd a chymdeithasol y Fro.

Safle cyhoeddus yr iaith

Yn y Fro Gymraeg rhoddir blaenoriaeth amlwg i'r iaith gan y rhan fwyaf o'r cynghorau lleol. Gwelir hyn yn fwyaf amlwg efallai yn y flaenoriaeth a roir i'r iaith ar arwyddion ffordd ac arwyddion swyddogol eraill (ceir y gwrthwyneb mewn rhai o siroedd eraill Cymru, e.e. Sir Ddinbych).

Yn ogystal mae cynghorau sir fel Gwynedd yn gwneud defnydd helaeth o'r iaith fel iaith weinyddol a swyddogol o fewn y cyngor. Ond mae gan rhai cynghorau yn y Fro, e.e. cyngor Sir Gaerfyrddin, hanes digon amwys am eu diffyg defnydd o'r iaith a'u cefnogaeth tuag ati.

Diffinio'r Fro Gymraeg yn 1964

Diffiniwyd 'Y Fro Gymraeg' gan Owain Owain yn Rhifyn 4 o Dafod y Ddraig yn Ionawr 1964. Mewn ysgrif ("ONI ENILLIR Y FRO GYMRAEG. . . . ") yn Y Cymro, 12 Tachwedd, 1964, rhoddir ffurf ar y syniad o ganolbwyntio'r frwydr ar yr ardaloedd Cymraeg. Dywedodd Owain yn ei erthygl y frawddeg enwog: 'Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.'

Dilynwyd ef gan yr Athro J. R. Jones ac yna Emyr Llewelyn a ffurfiodd Mudiad Adfer gyda'r nôd o warchod Y Fro Gymraeg.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.