Euddogwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif → 6g using AWB |
2 ddelwedd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Llandogo Monmouthshire Cymru Wales 04.JPG|bawd|Eglwys Llanddeugwy (Llandogo).]] |
|||
[[Delwedd:Llandogo Monmouthshire Cymru Wales 11.JPG|bawd|Cerflun ar un o golfnau'r eglwys; mae'n bosib mai Euddogwy ydyw.]] |
|||
[[Sant]] neu [[esgob]] [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Euddogwy''' ([[Lladin]]: '''Oudoceus''') (blodeuai tua diwedd y [[6g]]). |
[[Sant]] neu [[esgob]] [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Euddogwy''' ([[Lladin]]: '''Oudoceus''') (blodeuai tua diwedd y [[6g]]). |
||
Fersiwn yn ôl 11:35, 2 Gorffennaf 2017
Sant neu esgob Cymreig oedd Euddogwy (Lladin: Oudoceus) (blodeuai tua diwedd y 6g).
Hanes a thraddodiad
Ceir buchedd iddo, y Vita Beati Oudocei, yn Llyfr Llandaf, lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o Lydaw, ac Anauued, chwaer sant Teilo.[1] Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth Archesgob Caergaint a mynd ar bererindod i Rufain, ond mae'n anhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd esgobaeth newydd Llandaf, a sefydlwyd gan y Normaniaid, i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul Esgobaeth Tyddewi a'r Eglwys Gymreig.
Barn G.H. Doble oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn Llandaf yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys Llaneuddogwy (Llandogo) yng Ngwent, ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo.[2]
Ei wylmabsant yw 2 Gorffennaf.
Llyfryddiaeth
Vita Beati Oudocei: J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Llandâv (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979).