Bracla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:


*Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
*Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
*Ysgol Archesgob John Lewis yr Eglwys yn Nghymru
*Ysgol Archesgob John Lewis yr [[Eglwys yn Nghymru]]
*Ysgol Gynradd Tremaen
*Ysgol Gynradd Tremaen
*Ysgol Gynradd Bragle
*Ysgol Gynradd Bragle

Fersiwn yn ôl 00:29, 15 Gorffennaf 2005

Pen-y-bont ar Ogwr
Bragle

Mae Bragle, neu Bracla, yn faesdref i dref Pen-y-bont ar Ogwr, i'r dwyrain o'r dref ei hun. Ystad preswyl enfawr gydag oddeutu 12,000 o drigolion yw hi sydd ar lethr deheuol Bryn Bragle. Codwyd ar diroedd Tŷ Waunscil a Fferm Tremaen. Cododd y cyngor lleol yr ystad gwreiddiol yn y gorllewin o amgylch chwarel Tremaen yn y 50au, ond codwyd y rhan fwyaf o'r ystad gan gwmnïau preifat o'r 70au ymlaen. O dan yr ystad mae nifer o dwnelau a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i storio arfau a gynhyrchwyd yn ffatri Tredŵr gerllaw. Defnyddiwyd rhai o'r twnelau wedyn gan GCHQ. Mae nifer o nentydd bychain yn codi o ffynhonnau yn y galchfaen sydd yn y bryn ac yn llifo i lawr i Afon Ewenni yn Nhredŵr. Yr un mwyaf yw'r Nant Sana.

Mae'r ystad yn dal i ehangu ar diroedd Fferm Tremaen sydd ar ôl (yn cynnwys y ffermdy ei hun!) ac ar draws dolau'r Nant Morfa tuag at bentref Coety i'r gogledd.

Ysgolion

Mae yna bedwar ysgol ar yr ystad.

  • Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
  • Ysgol Archesgob John Lewis yr Eglwys yn Nghymru
  • Ysgol Gynradd Tremaen
  • Ysgol Gynradd Bragle

Cyfeiriadau




 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.