Comiwnyddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot Adding: vec:Comunismo |
Gangleri (sgwrs | cyfraniadau) {{Link FA|yi}} |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
[[Categori:Termau gwleidyddol]] |
[[Categori:Termau gwleidyddol]] |
||
{{Link FA|yi}} |
|||
[[af:Kommunisme]] |
[[af:Kommunisme]] |
||
[[an:Comunismo]] |
[[an:Comunismo]] |
Fersiwn yn ôl 11:00, 19 Chwefror 2008
Comiwnyddiaeth yw dull llywodraethu, yr athroniaeth sy'n ategu y dull hwnnw neu fudiad sy'n ei ategu.
Fel dull llywodraethu, byddai byd comiwnyddol yn un heb wladwriaeth, heb berchnogaeth breifat a heb ddosbarthau cymdeithasol. Mewn comiwnyddiaeth ddelfrydol, byddai perchnogaeth yn gymunedol ac eiddo'n gyffredin i bawb.
Y math o gomiwnyddiaeth sy'n fwyaf adnabyddus yw Marcsiaeth a'r mudiadau a chysyniadau sy'n deillio ohoni - yn arbenning Leniniaeth (neu Marcsiaeth-Leniniaeth fel y'i gelwir yn amlaf) a elwir felly ar ôl y chwyldroadwr Bolsiefic o Rwsiad, Vladimir Lenin). Fel rheol gelwir plaid wleidyddol sy'n arddel comiwnyddiaeth yn Blaid Gomiwnyddol. Mae'r mwyafrif o'r pleidiau hynny yn Farcsaidd-Leninaidd, ond ceir yn ogystal gomiwnyddion sy'n gwrthod Lenin i ddilyn athroniaeth chwyldroadwyr eraill, er enghraifft y Rwsiad Leon Trotsky (Trotscïaid), a chomiwnyddion sy'n cydnabod Lenin ond sy'n arddel athroniaeth wedi'i haddasu i gwrdd ag amgylchiadau neilltuol, fel y Maoïaidd (ar ôl y Tsieinëad Mao Zedong) a'r Staliniaid (ar ôl y Georgiad Joseph Stalin).
Mae comiwnyddion yn credu bod rhaid mynd drwy gyfnod o lywodraeth sosialaidd cyn y bydd comiwnyddiaeth ei hun yn bosib. Heddiw, dim ond Gweriniaeth Pobl Tsieina, Ciwba, Fiet Nam, Moldofa a Gogledd Corea sydd dan reolaeth gomiwnyddol. Cyn 1991, roedd 'na lawer mwy o wledydd sosialaidd, fel yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw, er enghraifft.