Marford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw '''Marford'''. Nid ymddengys fod enw Cymraeg yn bodoli. Saif ychydig i'r dwyrain o'r briffordd A483, rhwng [[Gresffordd]...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Adeiladwyd llawer o dai y pentref gan ystad Trefalun, ac mae Marford yn enwog am ei bythynnodd yn yr arddull a elwir yn ''cottage orné''. Rhestrwyd amryw ohonynt gan [[Cadw]]. Ar un adeg roedd y pentref yn enwog am ei ysbrydion.
Adeiladwyd llawer o dai y pentref gan ystad Trefalun, ac mae Marford yn enwog am ei bythynnodd yn yr arddull a elwir yn ''cottage orné''. Rhestrwyd amryw ohonynt gan [[Cadw]]. Ar un adeg roedd y pentref yn enwog am ei ysbrydion.


Gerllaw'r pentref mae hen chwarel, a agorwyd yn [[1927]] i gloddio defnydd ar gyfer [[Twnel Merswy]]. Caewyd y chwarel yn [[1971]]. Enwyd yu safle yn [[Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig]] yn 1989, ac yn [[1990]] prynodd [[Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru]] 26 acer o'r safle i'w ddatblygu fel gwarchodfa.
Gerllaw'r pentref mae hen chwarel, a agorwyd yn [[1927]] i gloddio defnydd ar gyfer [[Twnel Merswy]]. Caewyd y chwarel yn [[1971]]. Enwyd y safle yn [[Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig]] yn 1989, ac yn [[1990]] prynodd [[Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru]] 26 acer o'r safle i'w ddatblygu fel gwarchodfa.





Fersiwn yn ôl 13:31, 11 Chwefror 2008

Cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Marford. Nid ymddengys fod enw Cymraeg yn bodoli. Saif ychydig i'r dwyrain o'r briffordd A483, rhwng Gresffordd a Rossett. Llifa Afon Alun gerllaw. Ystyrir ward Marford a Hoseley yn un o'r tair ward gyfoethocaf yng Nghymru. Ceir dwy dafarn yma, ond nid oes siop bellach, ac mae'r ddau gapel wedi cau.

Adeiladwyd llawer o dai y pentref gan ystad Trefalun, ac mae Marford yn enwog am ei bythynnodd yn yr arddull a elwir yn cottage orné. Rhestrwyd amryw ohonynt gan Cadw. Ar un adeg roedd y pentref yn enwog am ei ysbrydion.

Gerllaw'r pentref mae hen chwarel, a agorwyd yn 1927 i gloddio defnydd ar gyfer Twnel Merswy. Caewyd y chwarel yn 1971. Enwyd y safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 1989, ac yn 1990 prynodd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru 26 acer o'r safle i'w ddatblygu fel gwarchodfa.