Carolyn Harris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tabl Canlyniadau
Dim crynodeb golygu
Llinell 55: Llinell 55:
== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
#
#
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig yr 21ain ganrif]]

Fersiwn yn ôl 09:35, 22 Mehefin 2017

Mae Carolyn Harris yn wleidydd Prydeinig, ac yn aelod seneddol Llafur dros Ddwyrain Abertawe ers Mai 2015.

Bywyd Personol

Ganwyd Carolyn yn etholaeth Dwyrain Abertawe, ac mae bellach yn cynrychioli'r etholaeth yn San Steffan.

Mynychodd Brifysgol Abertawe rhwng 1994-1998 gan astudio gradd gyfun mewn Hanes Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol.

Yn dilyn y Brifysgol, gweithiodd Harris i brosiectau cymunedol fel Guiding Hand Association ac wedyn Joshua Foundation. Cyn ei gyrfa wleidyddol, gweithiodd fel cynorthwydd gwleidyddol i'r blaenorydd Siân James MP, a safodd i lawr yn Mawrth 2015. Gweithiodd yn y gorffennol mewn bar ac fel gweinyddes fwyd ysgol ac mae wedi cyfeirio at hyn yn ei phrofiad o golli ei mab[1].

Gyrfa wleiyddol

Etholwyd Carolyn Harris i San Steffan yn 2015. Rhoddodd araith forwynol ar yr 8fed o Mehefin 2015 lle nododd fod Dylan Thomas yn anghywir yn ei gyfeiriad at Abertawe fel "this ugly, lovely town."

Yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn San Steffan, canolbwyntiodd ar faterion megis Cynllun Llanw Abertawe, trydaneiddio rheilfford De Cymru i Abertawe a materion prynu.

Apwyntiwyd Carolyn Harris fel Gweinidog Cysgodol Swyddfa Gartref i Jeremy Corbyn MP ar ol iddo gael ei ail-ethol yn arweinydd y Blaid Lafur.[2]

Canlyniadau etholiad 2017

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau Canran o'r bleidlais
Llafur Carolyn Harris 22,037 63.4
Ceidwadwyr Dan Boucher 9,139 26.00
Plaid Cymru Steffan Phillips 1,689 4.8
UKIP Clifford Johnson 1,040 3.0
Dem Rhydfrydol Charley Hasted 625 1.8
Gwyrddiad Chris Evans 359 1.0

Cyfeiriadau

  1. Mirror Online
  2. ITV Wales