Titus Livius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: is:Lívíus |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: vi:Titus Livius |
||
Llinell 48: | Llinell 48: | ||
[[tr:Titus Livius]] |
[[tr:Titus Livius]] |
||
[[vec:Tito Livio]] |
[[vec:Tito Livio]] |
||
[[vi:Titus Livius]] |
|||
[[zh:蒂托·李维]] |
[[zh:蒂托·李维]] |
Fersiwn yn ôl 23:03, 9 Chwefror 2008
Hanesydd Rhufeinig oedd Titus Livius (tua 59 CC - 17 OC). Mae'n enwog am ei waith ar hanes Rhufain, Ab Urbe Condita, sy'n trafod hanes y ddinas o'i dechreuad, yn 753 CC yn ôl traddodiad, hyd at gyfnod Livius ei hun yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Augustus.
Ganed Livius yn Patavium yn nhalaith Gallia Cisalpina (Padua yn yr Eidal heddiw). Gwyddir iddo briodi a bod ganddo o leiaf ddau blentyn. Enillodd ffafr Augustus a bu'n diwtor i Claudius, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach. Bu farw yn Patavium.
Roedd Ab Urbe Condita yn cynnwys 142 llyfr, ond dim ond 35 o'r rhain sydd wedi goroesi, sef 1-10 a 21-45 (gyda rhannau ar goll o 40-45). Cafwyd hyd i rannau o rai o'r llyfrau eraill neu grynodebau ohonynt. Roedd y gwaith yn boblogaidd iawn o'r cychwyn, ac mae'r rhannau sydd wedi goroesi yn parhau'n boblogaidd, yn enwedig 1-10, sy'n trafod dyddiau cynnar Rhufain, a 21-30, sy'n rhoi hanes y rhyfel yn erbyn Hannibal.