Sefnyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14eg ganrif oedd '''Sefnyn''' (bu farw yn y 1380au, efallai). Mae'n bur debygol ei fod yn frodor o [[Ynys M...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Ychydig a wyddys am Sefnyn ar wahân i dystiolaeth ei gerddi ei hun. Mae'r cerddi hynny, tair [[awdl]] i noddwyr o Fôn, yn anodd i'w dyddio. Ni wyddom pryd cafodd ei eni, ond ar sail un o'i awdlau credir iddo farw yn y 1380au. Mewn rhestr o feirdd canoloesol yn llaw [[William Salesbury]], a ysgrifenwyd tua 1574, dywedir fod Sefnyn "o [[Llanbabo|lan Pabo]] ym Môn". Gwyddys i Wilym ap Sefnyn ddal tir ym mhlwyf [[Llandyfrydog]] hefyd, ac mae hynny a'r ffaith fod tair awdl Sefnyn i bobl o Fôn yn awgrymu'n gryf ei fod yn frodor o'r ynys. Awgrymir gan gyfeiriad yn ei awdl i [[Goronwy Fychan]], un o Duduriaid Môn, ei fod wedi canu'r gerdd honno yn [[Arllechwedd Uchaf]].

Dim ond tair [[awdl]] o waith y bardd sydd wedi goroesi, ond gellir derbyn fod hynny'n ganran bychan iawn o'i waith a'i fod yn fardd o fri yn ei amser. Canodd ddwy awdl foliant, un i Angharad wraig Dafydd Fychan o Drehwfa a Threfeilir, a'r llall i [[Goronwy Fychan ap Tudur]] o [[Penmynydd|Benmynydd]] a'i wraig Myfanwy. Yn ogystal ceir awdl-[[marwnad|farwnad]] ganddo i'r bardd [[Iorwerth ab y Cyriog]], fab y bardd [[Gronwy Gyriog]]. Mae'r nodyn amlwg o golled bersonol a geir yn y gerdd yn awgrymu'n gryf fod y ddau fardd yn gyfeillion.
Dim ond tair [[awdl]] o waith y bardd sydd wedi goroesi, ond gellir derbyn fod hynny'n ganran bychan iawn o'i waith a'i fod yn fardd o fri yn ei amser. Canodd ddwy awdl foliant, un i Angharad wraig Dafydd Fychan o Drehwfa a Threfeilir, a'r llall i [[Goronwy Fychan ap Tudur]] o [[Penmynydd|Benmynydd]] a'i wraig Myfanwy. Yn ogystal ceir awdl-[[marwnad|farwnad]] ganddo i'r bardd [[Iorwerth ab y Cyriog]], fab y bardd [[Gronw Gyriog]]. Mae'r nodyn amlwg o golled bersonol a geir yn y gerdd yn awgrymu'n gryf fod y ddau fardd yn gyfeillion.

Y brif ffynhonnell am waith Sefnyn yw'r adran farddoniaeth yn [[Llyfr Coch Hergest]]: mae pob testun diweddarach yn deillio o'r llawysgrif honno.
Y brif ffynhonnell am waith Sefnyn yw'r adran farddoniaeth yn [[Llyfr Coch Hergest]]: mae pob testun diweddarach yn deillio o'r llawysgrif honno.

Fersiwn yn ôl 19:39, 7 Chwefror 2008

Un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14eg ganrif oedd Sefnyn (bu farw yn y 1380au, efallai). Mae'n bur debygol ei fod yn frodor o Ynys Môn ac yn dad i'r bardd Gwilym ap Sefnyn.

Ychydig a wyddys am Sefnyn ar wahân i dystiolaeth ei gerddi ei hun. Mae'r cerddi hynny, tair awdl i noddwyr o Fôn, yn anodd i'w dyddio. Ni wyddom pryd cafodd ei eni, ond ar sail un o'i awdlau credir iddo farw yn y 1380au. Mewn rhestr o feirdd canoloesol yn llaw William Salesbury, a ysgrifenwyd tua 1574, dywedir fod Sefnyn "o lan Pabo ym Môn". Gwyddys i Wilym ap Sefnyn ddal tir ym mhlwyf Llandyfrydog hefyd, ac mae hynny a'r ffaith fod tair awdl Sefnyn i bobl o Fôn yn awgrymu'n gryf ei fod yn frodor o'r ynys. Awgrymir gan gyfeiriad yn ei awdl i Goronwy Fychan, un o Duduriaid Môn, ei fod wedi canu'r gerdd honno yn Arllechwedd Uchaf.

Dim ond tair awdl o waith y bardd sydd wedi goroesi, ond gellir derbyn fod hynny'n ganran bychan iawn o'i waith a'i fod yn fardd o fri yn ei amser. Canodd ddwy awdl foliant, un i Angharad wraig Dafydd Fychan o Drehwfa a Threfeilir, a'r llall i Goronwy Fychan ap Tudur o Benmynydd a'i wraig Myfanwy. Yn ogystal ceir awdl-farwnad ganddo i'r bardd Iorwerth ab y Cyriog, fab y bardd Gronw Gyriog. Mae'r nodyn amlwg o golled bersonol a geir yn y gerdd yn awgrymu'n gryf fod y ddau fardd yn gyfeillion.

Y brif ffynhonnell am waith Sefnyn yw'r adran farddoniaeth yn Llyfr Coch Hergest: mae pob testun diweddarach yn deillio o'r llawysgrif honno.

Llyfryddiaeth

  • Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Sefnyn', yn Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth, 1995). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.