Charles Francis Egerton Allen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dinbych y Pysgod
Llinell 7: Llinell 7:
Cafodd ei addysgu yng [[Coleg Eton|ngholeg Eton]] a [[Coleg Sant Ioan, Caergrawnt|Choleg Sant Ioan, Caergrawnt]] lle graddiodd BA ym 1870.
Cafodd ei addysgu yng [[Coleg Eton|ngholeg Eton]] a [[Coleg Sant Ioan, Caergrawnt|Choleg Sant Ioan, Caergrawnt]] lle graddiodd BA ym 1870.


Priododd Elizabeth Georgina, merch William Wilcox o [[Whitburn]], [[Swydd Durham]] ym 1891 bu hi farw ym 1934. Ni fu plant o'r briodas.
Priododd Elizabeth Georgina, merch William Wilcox o [[Whitburn]], [[Swydd Durham]] ym 1891 bu hi farw ym 1934. Ni fu plant o'r briodas. Bu farw yn ei gartref yn 10 Norton, [[Dinbych y Pysgod]].<ref>[http://landedfamilies.blogspot.co.uk/2014/01/102-allen-families-of-pembrokeshire.html landedfamilies.blogspot.co.uk;] adalwyd 13 Mehefin 2017.</ref>


==Gyrfa==
==Gyrfa==

Fersiwn yn ôl 06:18, 13 Mehefin 2017

Roedd Charles Francis Egerton Allen (14 Hydref, 184731 Rhagfyr, 1927) yn weinyddwr Prydeinig yn yr India ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Penfro a Hwlffordd.

Bywyd Personol

Ganwyd Allen yn Agra, Uttar Pradesh yr India ym 1847, lle'r oedd ei dad, Charles Bird Allen yn gwasanaethu yng Ngwasanaeth Sifil yr India. Ei fam oedd Mary Anne Harriet, merch Peter Bartholomew Jullian o Lundain.

Cafodd ei addysgu yng ngholeg Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1870.

Priododd Elizabeth Georgina, merch William Wilcox o Whitburn, Swydd Durham ym 1891 bu hi farw ym 1934. Ni fu plant o'r briodas. Bu farw yn ei gartref yn 10 Norton, Dinbych y Pysgod.[1]

Gyrfa

Galwyd Allen i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1871 a fu'n gweithio fel Bargyfreithiwr yng Nghylchdaith Gogledd Ddwyrain Lloegr cyn symud yn ôl i'r India ym 1873 lle fu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghalcutta a Rangoon ac fel barnwr llys man achosion Calcutta, bu'n Advocad y Llywodeaethwr yn Rangoon ac yn Gofrestrydd Rangoon. Bu hefyd yn ddarlithydd yn y Gyfraith yng Ngholeg y Presidency Calcutta.[2]

Bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch dros Sir Benfro o 1895 i 1906

Gyrfa Wleidyddol

Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol etholaeth Penfro a Hwlffordd yn etholiad cyffredinol 1892 gan lwyddo cipio'r sedd oddi wrth Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol. Collodd y sedd yn etholiad cyffredinol 1895 gan gael ei drechu gan yr ymgeisydd Ceidwadol.

Cyfeiriadau

  1. landedfamilies.blogspot.co.uk; adalwyd 13 Mehefin 2017.
  2. tudalen 425 The India List and India Office List for 1905, Harrison & Sons Llundain 1905 [1] adalwyd 27 Ionawr 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Charles Mayne
Aelod Seneddol Penfro a Hwlffordd.
18921895
Olynydd:
John Wimburn Laurie