Siartiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Llinell 5: Llinell 5:


== Cymru ==
== Cymru ==
Yng Nghymru, maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], y Siartydd mwyaf amlwg oedd [[Hugh Williams]], a oedd yn frawd yng nghyfraith i [[Richard Cobden]], y gwleidydd [[Radicaliaeth|radicalaidd]]. Yn [[Llanelli]] yr oedd [[David Rees]] golygydd ''[[Y Diwygiwr]]'' yn ffigwr amlwg. Ym [[Merthyr Tudful]], roedd [[Morgan Williams]]; yr enwog Dr [[Willliam Price]] o [[Llantrisant|Lantrisant]]; a [[John Frost]] yn [[Sir Fynwy]]. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn [[Neuadd y Sir, Trefynwy]] i'w crogi a'u chwarteru.
Yng Nghymru, maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], y Siartydd mwyaf amlwg oedd [[Hugh Williams]], a oedd yn frawd yng nghyfraith i [[Richard Cobden]], y gwleidydd [[Radicaliaeth|radicalaidd]]. Yn [[Llanelli]] yr oedd [[David Rees]] golygydd ''[[Y Diwygiwr]]'' yn ffigwr amlwg. Ym [[Merthyr Tudful]], roedd [[Morgan Williams]]; yr enwog Dr [[Willliam Price]] o [[Llantrisant|Lantrisant]]; a [[John Frost]] yn [[Sir Fynwy]]. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn [[Neuadd y Sir, Trefynwy]] i'w [[Crogi, diberfeddu a chwarteru|crogi a'u chwarteru]].


{{eginyn hanes}}
{{eginyn hanes}}

Fersiwn yn ôl 23:12, 5 Mehefin 2017

Cyfarfod o'r Siartwyr yn Kennington Common, Llundain yn 1848

Mudiad a hawliai wellianau yn amodau byw a hawliau dinesig y gweithiwr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd Siartiaeth neu Fudiad y Siartwyr. Roedd y mudiad yn weithgar yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei sefydlu gan 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838.

Roedd yn ei anterth yn 1839, 1842, a 1848 a chyflwynwyd deiseb i Dŷ'r Cyffredin yn hawlio newid. Ar y cyfan, defnyddiwyd dulliau cwbwl ddi-drais fel cyfarfodydd a deisebion. Yr ardaloedd mwyaf gweithgar oedd ardaloedd glo De Cymru, Gogledd Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Ardal y Crochendai, Stafford a'r Black Country, sef bwrdeisdrefi Dudley, Sandwell a Walsall.

Cymru

Yng Nghymru, maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng Nghaerfyrddin, y Siartydd mwyaf amlwg oedd Hugh Williams, a oedd yn frawd yng nghyfraith i Richard Cobden, y gwleidydd radicalaidd. Yn Llanelli yr oedd David Rees golygydd Y Diwygiwr yn ffigwr amlwg. Ym Merthyr Tudful, roedd Morgan Williams; yr enwog Dr Willliam Price o Lantrisant; a John Frost yn Sir Fynwy. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn Neuadd y Sir, Trefynwy i'w crogi a'u chwarteru.

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.