Y Ddraig Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6: Llinell 6:
[[Image:Welsh Dragon Memorial Mametz Wood.jpg|thumb|Cofeb Gymreig [[Brwydr Coedwig Mametz]]]]
[[Image:Welsh Dragon Memorial Mametz Wood.jpg|thumb|Cofeb Gymreig [[Brwydr Coedwig Mametz]]]]
===Chwedl Lludd a Llefelys===
===Chwedl Lludd a Llefelys===
Yn y chwedl [[Cymraeg Canol]] ''[[Lludd a Llefelys]]'', a gyfrifir fel rheol yn un o'r [[Mabinogion]], mae'r ddraig goch yn ymladd â draig wen sy'n ceisio goresgyn [[Ynys Brydain]]. Mae sgrechiadau'r ddraig honno yn peri i wragedd feichiog golli eu plant ac yn troi anifeiliad a phlanhigion yn anffrwythlon. Â [[Lludd]], brenin y [[Brythoniaid]], i geisio cymorth ei frawd doeth [[Llefelys]] yn Ffrainc. Mae Llefelys yn dweud wrtho i gloddio twll yng nghanol Ynys Brydain, ei lenwi â [[medd]], a'i orchuddio â llen. Gwna Lludd hyn, ac mae'r ddwy ddraig yn yfed y fedd ac yn syrthio i gysgu. Mae Lludd yn eu dwyn a'u carcharu, wedi eu lapio yn y llen o hyd, yn [[Dinas Emrys|Ninas Emrys]] yn [[Eryri]].
Yn y chwedl [[Cymraeg Canol]] ''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'', a gyfrifir fel rheol yn un o'r [[Mabinogion]], mae'r ddraig goch yn ymladd â draig wen sy'n ceisio goresgyn [[Ynys Brydain]]. Mae sgrechiadau'r ddraig honno yn peri i wragedd feichiog golli eu plant ac yn troi anifeiliad a phlanhigion yn anffrwythlon. Â [[Lludd]], brenin y [[Brythoniaid]], i geisio cymorth ei frawd doeth [[Llefelys]] yn Ffrainc. Mae Llefelys yn dweud wrtho i gloddio twll yng nghanol Ynys Brydain, ei lenwi â [[medd]], a'i orchuddio â llen. Gwna Lludd hyn, ac mae'r ddwy ddraig yn yfed y fedd ac yn syrthio i gysgu. Mae Lludd yn eu dwyn a'u carcharu, wedi eu lapio yn y llen o hyd, yn [[Dinas Emrys|Ninas Emrys]] yn [[Eryri]].


===Nennius===
===Nennius===

Fersiwn yn ôl 17:59, 1 Chwefror 2008

Y Ddraig Goch ar Faner Cymru
Gweler hefyd Baner Cymru.

Y Ddraig Goch yw prif symbol cenedlaethol Cymru, sydd i'w weld ar faner genedlaethol y wlad (a adnabyddir ar lafar fel "Y Ddraig Goch"). Ceir sawl chwedl am y Ddraig Goch, o'r Oesoedd Canol Cynnar ymlaen. Cysylltir y ddraig â Dinas Emrys yn Eryri ac mae ei gwreiddiau fel symbol o'r Cymry a'u gwlad yn hen.

Chwedloniaeth

Cofeb Gymreig Brwydr Coedwig Mametz

Chwedl Lludd a Llefelys

Yn y chwedl Cymraeg Canol Cyfranc Lludd a Llefelys, a gyfrifir fel rheol yn un o'r Mabinogion, mae'r ddraig goch yn ymladd â draig wen sy'n ceisio goresgyn Ynys Brydain. Mae sgrechiadau'r ddraig honno yn peri i wragedd feichiog golli eu plant ac yn troi anifeiliad a phlanhigion yn anffrwythlon. Â Lludd, brenin y Brythoniaid, i geisio cymorth ei frawd doeth Llefelys yn Ffrainc. Mae Llefelys yn dweud wrtho i gloddio twll yng nghanol Ynys Brydain, ei lenwi â medd, a'i orchuddio â llen. Gwna Lludd hyn, ac mae'r ddwy ddraig yn yfed y fedd ac yn syrthio i gysgu. Mae Lludd yn eu dwyn a'u carcharu, wedi eu lapio yn y llen o hyd, yn Ninas Emrys yn Eryri.

Nennius

Mae Nennius yn ail-gydio yn y chwedl yn ei Historia Brittonum (tua dechrau'r 9fed ganrif). Mae'r dreigiau dan Ddinas Emrys o hyd pan ddaw'r brenin Gwrtheyrn yno, ar ffo ar ôl Brad y Cyllyll Hirion, a cheisio codi castell. Ond mae'n syrthio bob nos. Ymgynghora Gwrtheyrn a'i ddoethion, sy'n ei gynghori i gael hyd i fachgen heb dad naturiol, a'i aberthu ar y graig. Mae negeswyr Gwrtheyrn yn cael hyd i fachgen (a enwir yn Fyrddin mewn fersiynau diweddarach) yng Nghaerfyrddin. Ar ôl clywed am ei dynged, mae'r bachgen rhyfeddol yn dweud wrth Wrtheyrn gwir ystyr y dreigiau sy'n ei boeni. Mae Gwrtheyrn yn cloddi'r graig ac yn rhyddhau'r dreigiau. Maent yn parhau i gwffio nes bod y ddraig goch wedi gorchfygu'r ddraig wen. Yna mae'r bachgen yn esbonio wrth y brenin fod y ddraig wen yn cynrychioli'r Eingl-Sacsoniaid (cyndeidiau'r Saeson) a bod y ddraig goch yn cynrychioli'r Brythoniaid, cyndeidiau'r Cymry.

Sieffre o Fynwy a'r brudiau

Ceir ymhelaethiad rhamantus ar yr un chwedl gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae (dechrau'r 12eg ganrif), lle portreadir y ddraig goch fel arwydd sy'n darogan dyfodiad Arthur fel Mab Darogan. Ceir nifer o gyfeiriadau at y ddraig yng ngherddi brud y cyfnod yn ogystal.

Hanes

Gelwir sawl arwr yn "ddragon" fel trosiad am ryfelwr nerthol yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol. Ceir enghraifft yn enw Uthr Bendragon, tad Arthur.

Gorymdeithiodd byddin Owain Glyndŵr dan faner yn cynnwys draig aur ar gefndir gwyn pan ymosododd ar gastell Caernarfon] yn 1401.

Pan laniodd Harri Tudur ym Mhenfro yn 1485, cododd baner gyda llun o ddraig goch Cadwaladr Fendigaid ar faes gwyrdd a gwyn arno, a ddaeth i gynrychioli Tŷ'r Tuduriaid, a raliodd nifer o Gymry ato ar ei ffordd i Faes Bosworth. Cynwyswyd y Ddraig Goch yn arfbais y Tuduriaid wedyn.

O ddechrau'r 19eg ganrif ymlaen, daeth y Ddraig Goch i fri cenedlaethol eto ac fe;i defnyddwyd gan sawl cymdeithas gwladgarol ac fel arwydd cyffredinol o Gymru a'r Cymry.

Yn 1953, mabwysiadodd y Swyddfa Gymreig yr arwyddair "Y ddraig goch dyry gychwyn" ar ei arwyddlun brenhinol. Ni wyddys pwy a gynghorodd y Swyddfa Gymreig i wneud hynny, ond mae'r llinell, sy'n dod o gerdd gan y bardd Deio ab Ieuan Du, yn cyfeirio at darw yn hytrach na draig, a'r "cychwyn" yw'r weithred o genhedlu gyda buwch yn yr un cae.

Dolenni allanol

Gweler hefyd